Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ceir yn Ein Breiniad y cyvnod hwnw adroddiad am ymweliad L. J. â Borthaethwy (Port Desire), a'r Groes-wen (Santa Cruz), dros y Llywodraeth, i weled a ellid yn y lleoedd hyny blanu sevydliadau Cymreig. Bernid nad oedd nemawr ragolygon amaethol ar gyfiniau arvorol Borthaethwy; ond tebygai y gellid gwneud sevydliad llewyrchus ar ddyfryn y Siawen (cangen ddelai i'r Cruz yn agos i'r môr) o'r gorllewin, tua Ma—waish.

Ysgarmes arall y ceir adroddiad ohoni yn Ein Breiniad yw yr un parthed ysgoldy Glyn-du—pan ovynai yr athraw cenedlaethol Powel am gael devnyddio yr ysgoldy yn ysgol ddyddiol, ond yr hyn a omeddai y gynulleidva a'i mynychai, am yr ovnent vod yr athraw hwnw o dueddion Pabaidd.

Ceir adroddiad yno hevyd vod y Cyngor wedi medru codi £50 drwy gyngaws arian dyledus i M. D. Jones ar gyvriv y Vintai Gyntav—prawv nad oedd y gweinyddiad lleol mor ddiymadverth ag yr honid.



PARHAD O'R ORMES SWYDDOGOL.

Yr oedd y reolaeth driflyg hon—Prwyad, Cabden y Borth, a'r Pwyllgor yn anioddevus iawn i'r Wladva. Codasid Swyddva Dyvudiaeth, i vod hevyd yn Swyddva Gwladvaoedd, a chyda hono gohebai y Pwyllgor i geisio cael dealltwriaeth pa vodd i weithredu yn yr ymrysonau parhaus oedd yn codi. Gwasanaethed y nodyn canlynol vel engraift:—

Chubut, Mai 5, 1880.

Mae sevyllva drevnidol y Wladva yn parhau i vod yn vlinder a dyryswch i'r Wladva—o ddifyg definiad eglur beth yw dyledswyddau yr awdurdodau lleol. Hysbyswyd ni vod cyvraith y Chaco wedi ei chymhwyso hevyd at Chubut. Mae amwysedd swydd y Prwyad, a llaw drom y swyddogion llyngesol, yn peri i'r Pwyllgor bryder dirvawr pa vodd i weithredu yn ddoeth ac efeithiol, a chan hyny yn ervyn yn daer ar Swyddva Gwladvaoedd i'n hysbysu o vanylion cyvraith y Chaco, a'r modd i'w rhoi mewn grym yma.—J. B. RHYS, L. J.

Ychydig cyn hyny galwasai un o longau y llynges Arianin yn y Wladva, a chanlyniad hyny oedd y paragraf canlynol yn y Porteno—un o newydduron Buenos Ayres. "Nid oes gan sevydlwyr Chubut barch yn y byd i'r awdurdodau Arianin. Datganai y Prwyad Oneto ei lwyr anallu i lethu nac atal yr anrhevn sydd yno, a dywed yr awdurdodau llyngesol nad oes ond grym arvau yn eu cadw rhag tori allan mewn gwrthryvel."