Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddanvonasai y nodyn bygythiol (tud. 97), ymddengys i'r penodiad vod yn dramgwydd i hwnw, a danvonodd y nodyn canlynol:—

Chubut, Ion. 27, 1880.

Er nas gallav ddeall pam y danvonasoch y nodyn gevais oddiwrthych heddyw, [nid oedd ond ei hysbysu o'r penodiad] yr wyv yn brysio i'w ateb, er mwyn eich hysbysu vy mod vel Cabden y Borth a swyddog milwrol, bob amser yn barod i beri parchu yn vilwrol, o vewn tervynau vy swydd gwaedded a waeddo—gyvreithiau vy ngwlad, y rhai a wn yn ddigon da na raid i ddieithryn, er eich savle vel swyddwr cenedlaethol, vy addysgu na'u hadgovio heb vy nghenad. Velly govynav i chwi y tro nesav beidio closio eich hun atav vi, gan nas gallav vi wneud hyny yn ol. Dywedav eto y gwn yn dda gyvreithiau vy ngwlad, ac y mae ynwyv gydwybodolrwydd dwvn o'm gweithredoedd, ac nid wyv yn vyr o'r egni angenrheidiol yn yr amgylchiadau vu'n galw am hyny i'w cyvlawni yn vanwl, hyd nod er eich gwaethav chwi, ac heb ddim ovn ymrysonau allai godi wrth gyvlawni vy nyledswydd, yr hyn wyv wedi wneud hyd heddyw yn gwbl gydwybodol: ac nid wyv yn gwybod ddarvod i mi erioed vyn'd dros finiau vy awdurdod, na thresmasu ar eich finiau chwithau vel "yr awdurdod wladol, gyvreithiol, milwrol a goruchel" y Wladva hon [darnodiad y gyvraith o swydd prwyad] a'i phreswylwyr, gan nad yw yr un sydd a'i enw isod yn cydnabod yr un awdurdod vilwrol na goruchel ond yr eiddo ei hun.—CANDIDO F. CHARNETON.

Lle'r oedd ysprydiaeth vygylog vel yna yn fýnu nid rhyvedd i Swyddva Gwladvaoedd chwilio am brwyad newydd o'r un nodwedd, a throi L. J. o'r neilldu mor swta. Yr eglurhad arall ydoedd vod dylanwad D. Juan Dillon yn dechreu ymgilio i roi lle i'w briv swyddog gynt i gymeryd ei le. Pan benodwyd y prwyad newydd mor sydyn, yr oedd L. J. ar vordaith tua Buenos Ayres i roddi ei adroddiad, a rhoddir rhan o hwnw yma vel mynegiad o sevyllva pethau ar y pryd yn y Wladva:—

Buenos Ayres, Awst 13, 1881.

At Benaeth Swyddva Gwladvaoedd —Daethum i vynu yma i osod ger eich bron sevyllva ac angenion y Wladva yngwyneb dyliviad dyvudwyr atom, a difyg trevniadau i'w derbyn a'u hyrwyddo. Y 150 ddaethant yn ddiweddar medrwyd eu lletya a'u hwyluso hyd eithav cyvleusderau y lle a charedigrwydd y cymdygion. Ond daethum i vynu yma i gymell i'ch sylw y pwysigrwydd o vod y trevniadau yn gyvlawnach, rhag llesteirio y ddyvudiaeth Gymreig sydd yn awr yn llivo tuag yma. Pan gyrhaeddais yma deallais vod gŵr arall wedi ei benodi i'r swydd. Nid yw hyny o bwys yn y byd genyv yn bersonol, er nas gallav