Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/119

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddirnad y rheswm dros y vath newidiad sydyn. Ond ar vuddianau a rhagolygon y Wladva gall efeithio yn niweidiol. Y mae dyvodiad y dyvudwyr diweddar hyn i'w briodoli mewn rhan i'r hyder barodd vy mhenodiad i yn brwyad ymhlith hyrwyddwyr y mudiad gwladvaol yn Nghymru, ac nid peth i'w atal a'i adnewyddu yn ddysbeidiol yw lliv dyvudiaeth. Bwriadaswn wasgu i'ch sylw yr awgrymion canlynol: (1) Caniatau i'r Wladva gael cychwyn ei bywyd lleodrol (municipal) yn ol Cyvraith y Chaco, lle bo mil o bobl. (2) Estyn y sevydliad gyda'r dyfryn, ac i vanau addas i'r de a'r gogledd. (3) Dyrchavu y Brwyadva i vath o raglawiaeth i arolygu yr holl gylchynion. (4) Trevnu gydag agerlongau P.S.N. Co. i lanio dyvudwyr yn Chubut, ac i'r Llywodraeth dalu at eu cludiad swm cyvartal i'w cludiad o Buenos Ayres i'r Wladva, ac velly arbed yr ymdroi poenus presenol.

Bydd yn amgauedig vy adroddiad blyneddol barotoiswn cyn gwybod na byddai alw am vy ngwasanaeth. Caniatewch i mi hevyd amgau pendervyniad y Cyngor ar vy mhenodiad, vel yr oedd yn vynegiad o deimlad y sevydlwyr.—L. J.

"At Br. L. Jones, Prwyad y Llywodraeth Genedlaethol yn y Wladva. Mae genyv yr anrhydedd o gyvlwyno i chwi y pendervyniad canlynol basiwyd yn unvrydol gan y Cyngor yn ei eisteddiad diweddav:—'Mae y Cyngor yn llongyvarch Br. L. Jones ar ei benodiad yn Brwyad, ac yn datgan ein boddhad wrth weled y Llywodraeth yn penodi sevydlwr i'r swydd, gan y credwn yr hyrwydda hyny ddadblygiad y Wladva, ac y cadarnha gyd—ddealltwriaeth.'—ED. JONES, Ysg. y Cyngor."

Yr helynt nesav a groniclir o gyvnod yr ormes, a eglurir yn well drwy y dyvynion canlynol. Finoquetto oedd y prwyad y pryd hwnw, a Charneton yn Gabden y Borth.

Trerawson, Ebrill 7, 1881.

Ymgasglodd niver o gymdogion o achos camymddygiad swyddogian y Borth tra ar eu hymarveriadau gyda drylliau— sev tanio ergydion moelion trwy fenestri yr ysgoldy at bersonau ar wahanol achlysuron, ac yn arbenig ddoe, pryd yn chwanegol at yr uchod y taniwyd rai gweithiau i wyneb Louis Fevre, gan ei glwyvo, yr hwn oedd yn eu dwylaw yn garcharor. Pendervynwyd gwneud yr uchod yn hysbys i'r Ynad a'r Prwyad, ac os na weithredant hwy o hyn i'r Sul, alw cyvarvod cyhoeddus.— T. DAVIES, IOSUA JONES.

Ebrill 11, 1881. 1. Vod y cyvarvod hwn yn apelio at yr Ynad i gasglu pob tystiolaeth a hysbysrwydd ynglyn â gweithrediadau swyddogion y Borth yn eu hymddygiad at y carcharor Louis y Francwr sydd yn eu dwylaw, a'u gwaith yn tanio