Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGLITH.

BYDD orgraf y llyvr hwn, hwyrach, dipyn yn lletwith i'r llygaid anghyvarwydd ond gobeithio yr wyv vod yr ysgola lawer sydd wedi ymdreiddio drwy Gymru yn ddigon o hyrwyddiad deallus i'r darllenydd Cymraeg cyfredin, vel na bo dramgwydd nac anhawsder iddo ddilyn yn ddorus y traethiad hwn o STORI'R WLADVA, yn ddisglof o ran yr orgraf. Nid yw y newid namyn dodi v yn lle f, vel ag i adael yr ff hyllig, a thrwy hyny vireinio peth ar olwg ein llyth'reniad. Anav cas i'm llygad argrafydd i yw y dybledd cydseiniaid heglog a breichiog sydd ar ein horgraf: ac velly hevyd, wrth gwrs, y dyblu cydseiniaid er mwyn byrhau(!) y sain lavar. Penbleth ddybryd yw ceisio rhesymu a chysoni orgraf ein Cymraeg—cadw ei grym a'i thawdd henavol, a chyda hyny yr ystwythder diweddar na verwina mo'r glust na'r llygad goeth. Hofaswn, vel cymydog i'r Hispaenaeg yn y Wladva, wthio χ am ch, vel yn yr iaith hono: a phe cawswn gyda hyny furv o δ am dd, disgwyliaswn yn dawel am vilvlwydd yr orgraf. Nid o gymhendod y gwthir i sylw y symleiddiad hwn—rhag agor llivddorau "yr orgraf"—eithr o weled osgo bendant yr ysgolheigdod ddiweddar at ddilyn sain yn hytrach na gwraidd; ac o synied vod pob hwylusdod a byrder yn rhan o'r cabol a'r coethder yr ymestyna'r byd mor ddyval ato. Dilynais ddull gwerinol yr Unol Daleithau o grybwyll pawb wrth eu henwau galw: a'r un modd o ran yr ieithwedd, ceisiais osgoi coeg rodres anystwyth, heb syrthio i anghoethedd llenorol.

Bwriedir y llyvr hwn yn arbenig i dri dosbarth o ddarllenwyr :

1. "Plant y Wladva," wedi eu geni a'u magu yno—mal y gwypont yn gywir hanes eu Gwlad y dyhead cenedlaethol dwvn a chysegredig roddodd vodolaeth i'r Wladva: a'r egnion a'r aberthau wnaed gan eu tadau a'u mamau i ddiogelu iddynt hwy y breiniau a'r cyvleusderau sydd yn awr yn etiveddiaeth deg iddynt. Nid ydys yn y rhengau yn gwybod ond yn rhanol iawn am yr ymladd ymhob cwr o vaes y vrwydr; ond pan ddygir adroddion pobun at eu gilydd yn hanes cryno, bydd pob swyddog a soldiwr yn sythu ac ymwroli i wneud gwrhydri mwy pan ddaw galw, wedi deall am y gorchestion a'r aberthion y bu eve a'i dadau ynddynt wrth sevyll yn rhych eu dyledswyddau. Mae gan y Gwladvawyr, weithian, WLAD vawr o'r eiddynt eu hunain. Yn y llyvr hwn ceisir enyn ynddynt