Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/121

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ergydion at yr ysgoldy a phersonau. 2. Penodir J. M. Thomas, W. S. Tyndale, Bautista Faure, T. Davies, a W. R. Jones, i hysbysu y prwyad a'r ynad o'r cyvarvod hwn, ac i dynu allan wrthdystiad i'w gyhoeddi yn newydduron Buenos Ayres.

Ebrill 12, 1881. Nyni, pwyllgor benodwyd gan y cwrdd cyhoeddus yr 11eg cyv., a ymholasom parthed carchariad dau ddyn gan Gabden y Borth (Senor Charneton), a'r gamdriniaeth gavodd un ohonynt-ac eve yn ddeiliad Frengig, a'r hwn a vaeddwyd yn ddivrivol-a gredwn mai gwaith y prwyad yw cymeryd i vynu droseddwyr, ac nid Cabden y Borth: gan hyny dymunir ar i'r prwyad cenedlaethol ovyn am y carcharorion, er mwyn cymeryd eu tystiolaeth yn ol y gyvraith ar gyvryw achosion. Cymhellir ni i awgrymu hyn yn ol pen. 6, erth. 117 o Gyvraith Gwladvaoedd. Os bydd y prwyad yn barnu'n ddoeth ddevnyddio y gallu roddir iddo yn pen. 6, erth. 120 o'r gyvraith hono, cytunwyd yn y cyvarvod uchod ein bod i uvuddhau i'w orchymyn.-T. DAVIES, W. ROBT. JONES, B. FAURE, J. M. THOMAS, W. S. TYNDALE.

Yr Ynadva, Ebrill 9, 1881.

At Gabden y Borth-Yr wyv dan rwymau poenus i alw eich sylw at gwynion roddwyd yn furviol ger vy mron-yn gyntav gan gadeirydd y Cyngor, yna gan ddirprwyaeth o'r Cyngor, ac wedyn gan bendervyniad cyvarvod cyhoeddus (1) Vod dau ddyn wedi eu carcharu am ladrad heb hysbysu hyny yn yr Ynadva. (2) Eu bod wedi eu harteithio er ceisio cael ganddynt gyfesu. (3) Un ohonynt (L. Fevrier) dinesydd Frengig, wedi ei gamdrin yn erwin. (4) Vod milwyr y Borthva wrth ymarver saethu gydag ergydion moel wedi anelu at Fevrier a'i anavu ar amryw vanau o'i gorf. (5) Droion eraill, tra'r oedd y vilwriaeth hon yn ymarver velly, ddarvod iddynt saethu drwy fenestri yr ysgoldy, a throion eraill anelu at rai o'r trigolion.

Yr wyv gan hyny yn parchus, ond pryderus, ovyn am eich eglurhad, ac os mynwch, trosglwyddir i chwi yr ysgrivau sydd yn cynwys y cwynion hyn.-Ď. LL. JONES.

Gan mai Finoquetto oedd y prwyad y pryd hwnw, ato ev y danvonwyd y gwrthdystiad uchod. Cabden y borth oedd yn gormesu: ond ystyriai y prwyad ei swydd ei hun goruwch hwnw; ac velly gadawyd iddynt hwy bendervynu. Gan eu bod o'r un ysbrydiaeth ormesol, wrth-wladvaol, deallasant eu gilydd cyn hir ysgrivenodd Finoquetto lythyr o eglurhad a diheurad, gan ymgymeryd na ddigwyddai avreoleiddiwch cyfelyb eilwaith. Gollyngwyd y Francwr o'r cyfion, ac nid hir chwaith y bu cyn i Charneton vyned i Buenos Ayres, a chael ei benodi yn gabden y borth yn La Plata.