Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXI.

BRODORION CYNHENID Y WLAD-YR INDIAID.

Dengys wynebpryd, maint, ac anianawd brodorion y rhan ddeheuol o gyvandir De Amerig-o La Plata i Tierra del fuego, —sev y wlad a elwid yn ddaearyddol Patagonia -eu bod yn perthyn i bedair cenedl (1) Pampiaid, sev trigolion gwastadeddau eang talaeth Buenos Ayres; (2) Arawcanod, a breswylient lethrau yr Andes o'r ddau tu; (3) Tsonecod (Tehuelches) brodorion tàl a chorfol y canolbarth; (4) Fuegiaid, sev pobl gorachaidd gwaelod eithav dehau y cyvandir. Mae y ddwy genedl vlaenav wedi cymysgu llawer; a'r ail wedi agos gyvlawn arosod ei hiaith ar y ddwy arall. Siaredir peth Pampaeg gan lwyth Sac-mata tua Teca, a siaredir Tsoneca gan y rhai grwydrant dalaeth Santa Cruz, sev gweddill yr hen Batagoniaid. Ond y mae corf mawr yr Arawcanod, a'r bobl gymysg sydd gyda hwy, yn glynu wrth eu hiaith a'u devion o bob tu i'r Andes, ac yn myned dan yr enw cyfredin Tsilenod (Chilians). Siaradant hwy hevyd yr Hispaenaeg yn lled rigl. Pan sevydlwyd y Wladva (1865) yr oedd y brodorion, gellid dweud, yn arglwyddi ar yr holl wlad o Cape Corrientes, lled, 37, i lawr hyd Tierra del fuego, a'r holl berveddwlad oddiyno i'r Andes. Rhuthrent weithiau ar Bahia Blanca, neu lladratent aniveiliaid Patagones bryd arall. Droion eraill deuent o dueddau Mendoza, San Luis, a Córdova, gan ysgubo aniveiliaid a phobl o'u blaenau. Ymdrechai y Llywodraeth Arianin, ynghanol ei thraferthion gwladol ei hun, rhag yr alanas enbydus hono drwy gadw dyrnaid o vilwyr yma ac acw i gadw'r brodorion o vewn tervynau: a rhoddai hevyd roddion blyneddol iddynt o viloedd o dda corniog a chesyg. Pan oedd Adolfo Alsina yn rhaglaw talaeth Buenos Ayres, eve a osododd yr holl vyddin i godi clawdd mawr (vel Clawdd Ofa) ar hyd y fin y bernid vyddai hawddav i'w gadw; ond medrai y brodorion osgoi hwnw, a chilio i'r eangder anhysbys o'r tu ol pan y mynent. Adeg cychwyn y Wladva rhoddai y Llywodraeth 4,000 o benau daoedd yn rhoddion tri misol yn Patagones i'r penaethiaid Rawnké, Namun-cwrá a Shai-hweké, a'u pobl. Pan geisiwyd yn 1865 vyned a 600 o wartheg dros y tir o Patagones i'r Wladva, tarvodd yr Indiaid hyny y meichiaid, a chollwyd y daoedd. Ymhen blwyddi wedi hyny pan osododd Aguirre a Murga ar y Rio Negro (100 milldir i vynu'r avon) y Cymry wahanasent yn yr ail ymblaid, bu raid i'r rheiny foi am eu hoedl pan ddelai