Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/123

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y brodorion i lawr yno i dderbyn rhoddion y Llywodraeth. Pan oedd y prwyadon L. J. a Capt. Jones—Parry yn Patagones (1863) yr olygva braidd gyntav gawsant oedd y brodorion wedi lladd ceidwaid amddifynva vechan San Javier, 12 neu 15 milldir o Patagones. Gwelir oddiwrth gyvlwr y wlad y pryd hwnw mai rhyvyg ac enbydrwydd vuasai gosod yn y van hono ddyrnaid o Gymry vel ag oedd y Vintai Gyntav, er eanged y wlad a'r avon hono.

Velly, pan welwyd na thyciai Clawdd Ofa Alsina, ac y dyrchai gwaedd colledigion a chaethion yn uchel, pendervynodd y Cadvridog Roca—oedd ar y pryd yn Weinidog Rhyvelwneud cylch milwrol cyvlawn am gyrchvanau y brodorion, a'u dal neu eu diva. Mae hanes y gadgyrch vilwrol hono yn bluen amlwg ynghap y Cadvridog—ond trueni yw y sathrveydd hyn ar genhedloedd yn ymdrechu am ryddid. Yn yr ysgubva vawr hono cymerid i vewn y rhan vwyav o diriogaeth y Wladva, a syrthiodd llawer o'r hen vrodorion diniweitiav i blith y carcharorion, o ddamwain hollol. Wrth dynu y rhwyd hono daeth i mewn lawer o rai cymysg. oedd wedi medru osgoi y ddalva vawr gyntav, ac wedi foi i'r cyrion pellav, lle'r oedd hen gydnabyddion y gwladvawyr wedi dianc, yn ddigon pell debygsent hwy. Ceisiodd y Wladva gyvryngu gyda'r rhaglaw Winter ar ran eu hen gydnabod, gan mai eve oedd rhaglaw y dalaeth ar y pryd, ac yn gweithredu yn vilwrol o dan Roca, vel hyn:— "Nyni, trigolion Chubut, ydym yn ervyn eich hynawsedd am ddatgan vel hyn ein teimlad a'n dymuniad ar ran y brodorion adnabyddus i ni yn y cyfiniau hyn. Heb ymyryd mewn un modd yn y mesurau y barnoch chwi yn ddoeth eu mabwysiadu, dymunem, vel rhai wedi hen gydnabyddu â'r brodorion ddatgan ein gobaith y gellwch ddangos atynt bob tiriondeb a chynorthwy ag a vo gyson â'ch dyledswydd. Ar ein rhan ein hunain cymerwn y cyvle i vynegu ein bod wedi cael llawer o garedigrwydd oddiar law y brodorion hyn er amser sylvaeniad y Wladva, ac ni theimlasom nemawr bryder am ein diogelwch yn eu canol—yn wir, bu yr Indiaid yn vur o ddiogelwch a help i ni. Credwn y byddai cymdogaethau bychain o'r brodorion yn y cyfiniau yn hwylusdod bob amser i wthio sevydliadau newyddion i'r berveddwlad, vel y bu eu masnach i ni yma. Hyderwn velly y gwelwch yn bosibl, tra yn cyvlawni eich dyledswydd vilwrol yn ol eich doethineb, adael ein hen gymdogion brodorol yn eu cartrevi tra y parhaont mor heddychol a diniwed ag y maent wedi arver [Enwau pawb—Gorf. 20, 1883.]

Aeth dirprwyaeth o vonesau blaenav y Wladva at y rhaglaw Winter gyda'r ddeiseb ond ni thyciasant. Danvonwyd y carcharorion i Buenos Ayres: rhoddwyd y dynion yn y vyddin