Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eithr eu caru a'u parchu yn ddynol. Er hyn oll, yr wyv yn cael vy hun yn awr wedi vy nivetha a vy aberthu —vy nhiroedd, a adawsai vy nhadau a Duw i mi, wedi eu dwyn oddiarnav, yn ogystal a'm holl aniveiliaid hyd i haner can' mil o benau, rhwng gwartheg, cesyg, a devaid, a gyroedd o gefylau devnyddiol, a thorv ddiriv o verched a phlant a hen bobl. Oblegid hyn, gyvaill, yr wyv yn govyn i chwi roddi ger bron y Llywodraeth vy nghwynion yn llawn, a'r trallodion wyv wedi ddioddev. Nid wyv vi droseddwr o ddim—eithr uchelwr brodorol (noble creole), ac o raid yn berchenog y pethau hyn—nid dyeithryn o wlad arall, ond wedi vy ngeni a vy magu ar y tir, ac yn Archentiad fyddlon i'r Llywodraeth. Oblegid byny nis gallav ddirnad y trueni sydd wedi disgyn arnav drwy ewyllys Duw, ond gobeithiav y gwel Eve yn dda vy neall o'i uchelderau, a vy amddifyn. Ni wnaethum i er oed ruthrgyrchoedd, vy nghyvaill, na lladd neb, na chymeryd carcharorion —a chan hyny ervyniav arnoch gyvryngu droswyv gyda'r awdurdodau, i ddiogelu heddwch a thangnevedd i m pobl, ac y dychwelir i ni ein haniveiliaid a'm holl eiddo arian, ond yn benav vy nhiroedd. Gobeithiav ryw ddiwrnod gael yngom gyda chwi, a gwneud trevniad cyveillgar rhwng eich pobl chwi a'm pobl i. — Hyn, trwy orchymyn y Llywodraeth Viodorol.—VALENTIN SAIHUEQUE, —Jose A Loncochino, Ysg.

Cavodd y Wladva ryw ddwy helbul neu dair gyda'r brodorion: ond dylid gwahaniaethu yn y meddwl bob amser rhwng y naill bobl a'r lleill. Y gyntav oedd yn 1866 gyda'r Tsonecod (y gwir Batagoniaid) pan oeddys newydd gychwyn, a'r sevydlwyr yn gwbl amhroviadol. Daethai un teulu (Francisco) ar eu crwydr o vlaen eu llwyth, vel y deallwyd wedyn, er mwyn hela with eu hamdden. Pan ddaeth y llwyth, gyda'u canoedd cefylau brithion, a gwersyllu gerllaw pentrev y Wladva, yr oedd cryn gyfro ymhlith y sevydlwyr—neb yn deall eu gilydd ond trwy arwyddion, ond gwnaed velly lawer o vargeinion am gefylau a gêr vuont o vudd anrhaethol i'r eginyn sevydliad. Pan oedd y llwyth yn ymadael cymysgasai rhai o gefylau y gwladvawyr gyda chefylau y brodorion, a phan aethpwyd i chwilio am danynt dranoeth y deallwyd ac yr ovnwyd ai cast ydoedd. Nid oedd wiw caniatau peth velly ar y cychwyn: velly arvogodd rhyw ddwsin o'r rhai parotav, a rhoddodd Francisco venthyg cefylau, ac ymlidiwyd : daethant o hyd i'r brodorion ar bantle mawr a adwaenir hyd y dydd hwn vel Pant—yr—ymlid; a thra yr ymhelai un o'r brodorion gyda gwn un o'r ymlidwyr aeth yr ergyd allan, a bu, wrth gwrs, gy rɔ ymhlith y dorv. Edrychai pethau yn beryglus am vunud: ond tawelodd y penaeth Orkekum (y bu Musters gydag ev wed'yn) y dorv, ac ymadawyd mewn heddwch, gyda'r cefylau colledig yn ddiogel.

Dro arall aethai L. J. a phump o'r brodorion gydag ev i