Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/127

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Buenos Ayres i gael rhoddion o vwyd a dillad iddynt gan y Llywodraeth, a chavwyd yn hael. Pan ddychwelasant i'r Wladva a'r llwyth yn oedi dyvod (taw adeg brysur hela ydoedd) blinasant yn disgwyl, a ryw noswaith loer lladratasant 6 neu 7 o gefylau, ac ymaith a hwy. Gwnaed peth osgo i ymlid, ond yr oedd y wlad yn hollol ddyeithr y pryd hwnw, a'r teithio Indiaidd yn greft heb ei dysgu.

Dro arall (1871) pan oedd pawb wrthi yn llavurio eu tiroedd, oll yn agos i'w gilydd o'r Morva mawr i'r Cevn—gwyn—daeth niver o vrodorion lladronllyd, dan arweiniad un Pablo, ac a ysgubasant 60 neu 70 o gefylau. Yr oedd hono yn ergyd analluogai y Wladva i ymlid nemawr, wrth vod grym cefylau y sevydliad wedi eu cymeryd, a'r bobl hevyd yn anghyvarwydd â'r wlad, ac â theithio paith. Teimlid mai over vyddai ceisio dilyn, dan yr amgylchiadau, ac nad oedd dim am dani ond dioddev, a bod yn vwy gwyliadwrus.

Ymhen amser wed'yn, pan gynyddasai buches D. W. Oneida i gryn 50 neu ragor, ar du de yr avon, daeth gwaedd eu bod ar goll. Nid oedd hyny yn beth anghyfredin, a buwyd ddiwrnod neu ddau cyn bod yn sicr iawn o'r faith, a gweled eu trác yn cael eu gyru yn gryno i vynu'r avon. Heliwyd arvau ac ergydion, a benthyciwyd y cefylau goreu vedrid, ac ymaith a'r ymlidwyr heb vawr drevn na darpariaethau. Ond gwyddid na allai gwarthog deithio vel y teithiai cefylau, ac velly y deuid o hyd iddynt cyn yr elent ymhell iawn: ac velly y daethpwyd tua'r havnau mlain, lle y cychwyna Hirdaith Edwyn —ac yr oedd govyn cryn hyder i gredu yr elai gwartheg drwy le mor anhygyrch. Mae'r Hirdaith tua 60 milldir dros baith di—ddwr, a'i dau ben yn havnau toredig meithion: ond cyn cyraedd y disgyniad gorllewinol, cavwyd un vuwch wedi ei ch'lymu wrth lwyn o ddrain. Oddiyno i'r avon y mae 5 neu 6 milldir o havn ddaneddog droellog, ac yn gorfen ar waelod dôl neu drova'r avon—ac ar y ddôl hon yr oedd y gwartheg blinedig yn gorwedd wedi y vath daith a gyru caled. Yr oedd y vuwch glymedig yn arwydd vod yr yspeilwyr gerllaw; ond ni wyddid eu niver, na'r lle'r oeddynt; velly ymddolenai yr ymlidwyr yn ochelgar o'r havn, a gwelai y rhai blaenav di neu bedwar o varchogion yn gyru'n vrawychus ar hyd y ddôl gan anelu am lethr greigiog tua'r gorllewin. Erbyn hyny, yr oedd pawb allan o'r havn, ac oll yn gyru nerth traed y cefylau, gan gymell, a chwipio, a spardynu, yn llinell hir wasgarog, nes colli golwg y naill ar y llall yn y troellau a'r agenau a'r clogwyni—taw ni vu erioed le mwy cethin i garlamu drosto. Chwibanai bwledi y rhai blaenav oddeutu clustiau a chefylau y foedigion, y rhai a blygent ac a droellent i bob ystum ac ymochel. Gwelwyd un o'r foedigion yn syrthio neu yn disgyn oddiar ei gefyl, vel na welid dim ond ei het; a phan ddaeth yr erlidiwr cyntav i'w