ymyl, dynesai yn ochelgar a'i wn yn barod i danio—ond pan ddaeth i'r van canvu nad oedd yno ond yr het yn unig—vod y brodor cyvrwys wedi manteisio ar un o'r aneiriv agenau a chreigiau i ymguddio a dianc o'r cyraedd. Erbyn hyny yr oedd y cefylau deithiasent yn ddi—ddor dridiau a theirnos, wedi llwyr luddedu, a'u traed di—bedolau yn anavus ar ol y creigleoedd geirwon. Velly aravwyd: gwelwyd vod y foedigion hwnt i gyraedd gobaith eu dal: ac arav ddychwelwyd i'r ddôl i orphwyso a gwylio y gwartheg. A hono yw Dôl—yr—ymlid.
Bu dwy ymlidva arall eithr nid ar ol brodorion, yn ol yr ystyr o "Indiaid," ond yn hytrach mintai o alltudion Chili yn Punta Arenas (Cydvor Machelan), y rhai a godasent yn erbyn eu gwarchodwyr; ac wedi lladd ac yspeilio, a foisent, gan ymdaith ar hyd yr arvordir heibio Santa Cruz a Port Desire hyd i'r Wladva. Dioddevasant lawer mae'n debyg: ymravaelient a lladdent eu gilydd, vel y mae eu hesgyrn hyd y dydd hwn megys ceryg milldir tru yr holl fordd o Sandy Point i'r Wladva, 800 milldir. Cravangodd gweddill ohonynt (gryn 60) hyd y Wladva; a chan eu bod yn arvog, ac yn gymeriadau mor enbyd, a'r Wladva yn ddigon diamddifyn o ran arvau a threvniadau milwrol, medrodd y Pwyllgor eu dal a'u diarvogi, a'u danvon ymaith i Buenos Ayres.
Yr amgylchiad arall ydoedd pan ddaeth crwydryn o'r un dosbarth a'r uchod i'r Wladva, ac y barnwyd yn ddoeth ddanvon dyheddwr (plismon) i'w gyrchu at yr awdurdodau: ond yr hwn pan ddaeth i olwg y pentrev, a drywanodd yn varw y dyheddwr (Aaron Jenkins), ac a fôdd i'r paith. Erbyn dranoeth yr oedd y preswylwyr agos oll allan ar y paith yn chwilio am y lleiddiad. Dilynwyd ei drac a'i droellau bob yn gam, nes ei gornelu a'i gylchynu ynghanol hesg mawr ger Trebowen: neidiodd ar gevn cefyl heinyv i foi, a'i gyllell yn ei geg, ond cyn iddo ymuniawnu yn iawn yn ei sedd yr oedd dwsin o vwledi wedi mynd iddo. Velly y dialwyd gwaed Aaron Jenkins Merthyr cyntav breiniaeth y Wladva."
Yn yr unig helynt arall gyda'r brodorion daeth i'r golwg nodweddion gwaethav yr anwariaid —fyrnigrwydd dyval am yr ysglyvaeth, a chreulondeb cïaidd wedi cael gavael. Hwyrach vod un ystyriaeth a liniara beth ar hanes y trychineb hwnwsev mai cymysgva o'r brodorion erlidiasid o van i van gan vilwyr Roca yn y gadgyrch y cyveiriwyd ati, oedd y gang wnaeth y gyvlavan. Aethai pedwar o'r sevydlwyr am wib i "weled y wlad" a chwilio am aur—un ohonynt yn arweinydd eovn a chyvarwydd (J. D. Evans), dau o'r lleill yn anghyvarwydd â gerwina, ond y llall yn ddyn gwydn a heinyv. Dilynasent y Chubut hyd y man y daw'r avon Teca iddi o'r de, a'r Lypà o'r gorllewin, lle y cwrddasant â masnachwr brodorol, stori yr hwn a'u dychrynodd. Pendervynasant ddychwelyd ar vrys, a theith-