Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iasant yn ddyogel ddydd a nos, gan osgoi a thori llwybrau, vel na ellid eu dilyn. Daethant velly, yn dra blinedig, a'u harvau yn glwm ar y pynau, hyd at ddyfryn Kel-kein—nid nepell o gychwynva Hirdaith Edwyn—y diwrnod yn wyntog a lluwchiog iawn ond wele! vel corwynt, clywent waedd anaearol mintai o vrodorion ar eu gwarthav, llwch cefylau y rhai gymylai am danynt, gwaewfyn yn ymwibio o'u deutu, rhuthriadau, codymau, ac ysgrechau. Yr oedd cefyl J. D. Evans yn gryv a bywiog, a phan glywodd y waedd ac y teimlodd vlaen picell, llamodd yn ei vlaen hyd at fos ddovn, lydan, yr hon a gymerodd ar un naid— a naid ovnadwy oedd hono. Pan edrychodd y marchogwr drach ei gevn, gwelai ddau vrodor yn dilyn, gan ysgrechain a gwaeddi, a thory wedi ymgroni tua'r van y goddiweddwyd hwy. Nid oedd gan y foadur bellach ddim i'w wneud ond ceisio dilyn ymlaen i'r Wladva am ymwared—vwy na 100 milldir o fordd heb vod ganddo damaid o vwyd. Pan gyrhaeddodd, a dweud yr hanes, cyfrowyd yr holl le yn ddirvawr: cynullwyd mintai o wirvoddolwyr arvog ar unwaith i wneud ymchwiliad: pan gyrhaeddwyd y van, gwelwyd, ysywaeth, vod y gwaethaf a ovnid wedi digwydd —y tri corfyn truain wedi eu baeddu a'u darnio yn vwystvilaidd, a gweddillion tân heb fod ymhell lle y gwersyllasai y llovruddion ar ol yr alanas. Nid oedd bellach ddim i'w wneud ond casglu y gweddillion at eu gilydd, a gwneud bedd cryno i'w claddu mor barchus ac anwyl ag y gellid. Darllenodd L. J. y gwasanaeth claddu o'r llyfr Gweddi Gyfredin, a chanwyd "Bydd myrdd o ryveddodau" dan deimladau o ddivrivwch a braw anileadwy o ran yr adgov: a dywedir vod rhai o'r llovruddion oedd yn llechu yn y cyfiniau ar vwriadau drwg pellach, ar ol clywed y canu hwnw wedi dovi a myn'd adrev yn llai llidiog. Hono oedd yr unig gyvlavan vrodorol vawr a vu yn ystod y 25 mlyneddac ar gwr isav dyfryn Kel—kein y digwyddodd, man a elwir o hyny allan Lle-y-beddau.

Wrth gwrs, ar ol dyvodiad yr Hispaeniaid i Dde Amerig (1560), y gwybu'r brodorion ddim am gefylau. Crwydro ar draed y byddent cyn hyny, ac y mae eu hen wersylloedd a'u celvi yn evrydiaeth ddyddorol i'r hynaviaethydd. Mae'n debyg mai eu cyrchvanau penav oedd y rhanbarthau tyvianus gyda godreu yr Andes: ond gan vod yr hinsawdd yno a'r gweryd yn lleithach, nid hawdd yn awr taro ar eu holion. Yn ol damcan Darwin o'r "Trechav treisied, gwanav gwaedded," mae'n debyg y meddianid y gwregys tyvianus gan yr Arawcanod, a gwthiwyd yr hen Tsonecod rhwth i'r de a'r dwyrain—dyweder tiriogaeth bresenol Chubut. Oddiwrth y gweddillion geir yno, a'r traddodiadau yn eu mysg pan seiliwyd y Wladva, gellid casglu (1) Mai arvau ceryg a challestr a arverent. (2) Mai pysg a chregyn oedd eu cynhaliaeth pan yn y cyraedd. (3) Vod cyvnod wedi bod arnynt y claddent eu meirw, a chyvnod arall y llosgent