Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

valchïedd ohoni—nid yn unig o ran ei gwerth daearyddol (er y synir at hyny ryw ddydd), eithr hevyd o ran gwerth dylanwad yr ymadverthion a'r dadblygion barwyd ar y BOBL, vagwyd drwy y vath hanes a thraddodiadau—teilwng i'w himpio ar hanes a thraddodiau Hen Gymru ei hunan. Ceisiais ymgodi uwchlaw pob ymblaid a rhagvarn a gormodedd, vel ag i adael ar glawr yn glir, i chwi bobl ieuainc y Wladva, sylvaeni yr adail sydd i chwi adeiladu arni. Na rwystrer chwi gan anhawsderau : na rwystrer chwi gan ymraniadau ac yn anad dim na rwystrer chwi gan anobeithion.

2. Y lluaws mawr yn Amerig a Chymru vu yn dilyn y Mudiad Gwladvaol yn ddorus a manwl: lawer yn gyvranogol mewn rhyw wedd neu gilydd, neu ar ryw adeg neu gilydd; ac yn dymuno cael adroddiad pwyllus, cryno, o'r Mudiad, sydd weithian wedi myned yn ddyeithr hen iddynt, ac na chawsent hyd yn hyn onid crap yn awr ac yn y man ar y Stori Wladvaol. Nid rhaid adgyvodi y dadleuon a'r gwahaniaethau blinion a vuont gynt: na manu manylion dibwys helynt pob un iddo'i hun: na cheisio cywiro pob camliwiad a chamgymeriad vu ac y sydd ar led: nac estyn allan i ddyvalion na dichonolion beth allasai vod neu a all vod—dyma'r Hanes yn syml a manwl.

3. I'r miloedd a'r miloedd Cymry sydd led—led y byd, a hiraeth ar eu calonau am eu hen gyweithas Gymreig—megis cenadwri Ezra a Nehemia—i vynegu iddynt am Wlad wag, y gallent ei llenwi o'u pobl; ac wrth wneud hyny y cafent le penelin i dynu allan pa adnoddau bynag goreu sydd ynddynt a hyny drachevn yn ysprydoli'r Wladva "i weithio allan ei hiechydwriaeth ei hunan.'

4. I'r Gwleidyddwr Cymreig—sydd weithian yn y rhyvel dros ei Wlad a'i Genedl. Wrth vwrw trem ystyrbwyll ar Genedl y Cymry yn awr, dyrus iawn yw dyvalu "Beth vydd diwedd y pethau hyn"! Ystyrier y sathrva fyrnig sydd am damaid : y rhwysg a'r ymgais olygus am olud a moeth; y cwlt gewynau a divyrion a rhialtwch y di—grededd llàc hydwyth tra yn ymsuo mewn furviau a devod: y ciprys a'r treisio am olud a swyddi a busnes, a'r rhithio a'r eiddigedd, a'r dïalu am hyny: y dysectu ar y Suliau, a'r cuwch o'r herwydd y llymruedd dynwaredol i gyd—furvio â mursendod a rhodres, dan furviau o goeg fuantedd: tra Bwl ei hun yn addoli ei Ddwrn a'i Boced a'i Vola. Rhaid vydd ar wleidyddwyr Cymru ymgodymu â'r demonau hyn.__Wele hevyd yr Herodraeth Vilwrol ovnadwy sydd yn cyniwair Ewrob, gan rythu savnau i lyngcu pobloedd a chenhedloedd i'w crombiliau rhwth, gan gnoi a chrinsian arnynt, nes malu pob asgwrn cevn ohonynt. Rhodder cip aderyn dros gyrion ac ymylon y byd—China, India, Japan, Persia, Twrci, &c. Taener ger bron wed'yn vap o'r uthrol Unol Daleithau—