Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/132

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac at hyny y boenedigaeth a'r ymravaelio am luniaeth y Llywodraeth, a chwi welwch vod y sevyllva yn ymylu ar vod yn andwyol. A mentrav ddweud nad oes bobl eraill ar y ddaear a'i goddevent mewn amynedd vel y Wladva.

Gellwch weled vod ein helbulon yn gyfredinol, ac nid dolur personol i rai ydyw. Byddai oedi eto yn ddivrivol o beth. Yr unig beth welav vi yn y cyraedd—nes y cyhoedda'r Llywodraeth ei threvniant yn dervynol—vyddai mabwysiadu Deddy Tyddynod y Pwyllgor Lleol, gan vod hono yn agos yr un peth ag a gynygiai Dillon, cyn bod yn rhy hael a rhoi ei hun mewn dilema.L. J.

ADDYSG AC YSGOLION.

O'r cychwyn cyntav yn 1865 gwneid peth ymdrechion dysbeidiol i gadw ysgolion yn y Wladva. Yr athraw furviol cyntav oedd R. J. Berwyn—yna Tomas Puw, Rhys Thomas, T. G. Prichard, Dalar, &c., gan ymganghenu wedyn i'r amryw ardaloedd, vel y byddai galw. Yn Mehevin, 1877, yr etholwyd y bwrdd ysgol rheolaidd cyntav yn Nhrerawson, a'r aelodau oeddynt, L. J. (cadeirydd), R. J. Berwyn, J. Howel Jones, H. J. Pughe, a H. H. Cadvan. Erbyn 25ain, Mai, yr un vlwyddyn, yr oeddys wedi adeiladu ysgoldy brics cryno, a thô haiarn iddo —wasanaethodd hevyd yn hir vel capel, nes i'r gynulleidva godi capel priodol iddynt eu hunain. Cyvlog yr athraw cyntav oedd £30 y vlwyddyn, a'i vwyd a'i lety. Parhaodd yr ysgol hono am 6 blynedd, a thyvodd ynddi dô o blant deallus ac ymarweddus—taw yn Gymraeg y cyvrenid iddynt yr holl addysg—eu hiaith gysevin.

Mawrth 30ain, 1878, mae ar govnodlyvr y bwrdd ysgol:—L. J. (cadeirydd), Edw. Owen, J. Hywel Jones, R. J. Berwyn, J. M. Roberts. Daeth cenadwri o'r Glyn du yn govyn i'r bwrdd dd'od i gynadledd ynghylch addysg gynelid yno ddydd Llun, i ystyried rhyw vesurau y mae'r Llywodraeth Arianin yn awgrymu parthed addysg yn y Wladva.' Deallwyd mai cynyg hwnw oedd penodi R. J. Powel (Elaig), yn athraw cenedlaethol y lle. Llundeiniwr o Gymro, wedi dysgu Cymraeg a Hispaenaeg, oedd Elaig, yn ieithwr medrus ac yn ysgolor gwych, ond a vu voddi ar vàr y Camwy ryw ddwy vlynedd wedyn. Yr oedd Elaig yn Wladvawr aiddgar—ddaethai allan yn un swydd i hyrwyddo'r mudiad, pan oedd Torromè yn danvon ymvudwyr ac yn cynorthwyo. Tra yn Buenos Ayres, daeth i gysylltiad â rhai o Wyddelod Pabaidd dylanwadol y ddinas hono, a'r canlyniad vu iddo vyn'd drwy yr un petruson a throveydd meddyliol ag yr aethai Newman a Manning drwyddynt, vel pan ddaeth yn ol i'r Wladva, yr oedd yn Babydd arddeledig. Bu hyny, wrth gwrs, yn dramgwydd i'r Gwladvawyr, a pharodd beth anghydvod ynghylch ysgoldy Glyn du, lle cychwynasai