Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/133

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elaig ei ysgol. Vel "athraw cenedlaethol" yr oedd rhwymau arno i arver Hispaenaeg, vel yr "iaith genedlaethol;" ond gan na wyddai ei ddisgyblion (y plant) ddim o'r iaith hono, eve a aeth at y gwaith o grynhoi gwerslyvrau Cymraeg Hispaenaeg, i vod at wasanaeth ysgolion y Wladva: argrafwyd hwnw yn 1880, yn llyvryn 50 tud. Yr oedd wrthi yn brysur yn llunio geiriadur Cymraeg—Hispaenaeg pan ddaeth ei ddiwedd.

Dan y dyddiad Ebrill 2, 1878, mae y Wladva yn danvon y cais furviol canlynol at Gyngor Addysg y Genedl yn Buenos Ayres:—" Yn Ionawr diweddav, caniataodd y Llywodraeth $150 y mis at ysgol yn y Wladva; ond oedwyd gweithredu dim ar hyny oblegid i'r athraw penodedig ymadael am y briv ddinas.

GAIMAN.
Yn vuan wedi i ddyvudwyr 1874 symud yno i vyw.

Mae Cyngor y Wladva wedi gwneud trevniad elwir genym Deddv Addysg Elvenol,' yn ol pa un y mae bwrdd ysgol i gynrychioli yr amrywiol ysgolion vo yn y lle, ymhob achos y bo galw, ac vel y cyvryw yr ydym ni yn cyvlwyno y cais hwn ger eich bron. Yr ydym dros bedwar dosbarth, o ryw 5 milldir bob un, yn cynwys o 25 i 50 o blant yr un. Mae ysgoldy ymhob dosbarth, a chyvlog i'r athrawon ymhob ysgol, delir gan rieni y plant. Mae codi a chadw yr adeiladau, dewis a thalu yr athrawon, casglu tanysgrivion, prynu llyvrau a chelvi, &c., yn disgyn arnom ni. O reidrwydd mae yr ysgolion hyn ar wasgar lawer—pellder maith i'r plant gerdded—ychydig lyvrau a chelvi yn gyrhaeddadwy—a'r rhieni ond pobl dlodion ar eu goreu.