Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/134

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gan hyny, dymunem awgrymu ai nid buddiolach i'r Wladva, na chael un ysgol am y $150 y mis, vyddai i'r Llywodraeth neillduo y $150 misol hwnw yn gnewyllyn trysorva, o dan oval ac er budd pwyllgor—un aelod o bob dosbarth ysgol—i arolygu a chynorthwyo yr amrywiol ysgolion; gan hyderu y chwanega'r Teimlwn yn ddiolchgar Llywodraeth y rhodd visol yn y man. iawn am y dyddordeb ddangosodd y Llywodraeth yn ein haddysg drwy y rhodd hon."



Y DYNION SENGL.

Yn engraift eto o'r anhawsderau gylchynent y sevydliad yr amser hwnw, wele ddyvyniad arall ynghylch y dynion dideulu, ac heb veddiant tir:—

Chubut, Mawrth 5, 1880.

Dymunir gwasgu i sylw Swyddva Gwladvaoedd achos y sevydlwyr sengl sydd vyth heb dir. Wedi y tymor o'r blaen aeth ymaith ragor nag 20 o'r rhai hyn, am na cha'ent dir vel yr addawsid iddynt yn Nghymru: y mae 10 eto yn parotoi i vynd. Mae ymadawiad y dynion hyn yn amhariad mawr ar ein gallu cynyrchus a'n diogelwch, wrth eu bod yn codi lluestai yma ac acw i vod gyda'u gwaith, ac velly yn vath o warchodlu o ddiogelwch, ac hevyd yn gallu rhoi eu holl egni i godi cnydau, gan eu bod heb ovalon teuluaidd. Mae y dynion hyn agos oll yn fermwyr, ac wedi dwyn gyda hwy lawer o ofer amaethu. Ond talant yn awr ardreth o $5 yr hecterw am le hau; ac y mae hyny gyda chostau dyrnu a chario'r ŷd yn peri nas gallant enill digon i vyw. A hyn oll pan y mae llawer o fermi anghyvanedd, ond vod enwau rhyw bobl am danynt yn y swyddva, ond y bobl hyny yn gweithio mewn manau eraill. Gan hyny, ervynia Cyngor a'r pwyllgor tir ar i'r Llywodraeth ranu y tir gweddill i bobl gymwys. Dros y Cyngor—J. B. RHYS.

ARCH Y CYNGOR RHAG GWERTHU ARVAU I'R BRODORION.

Chubut, Mawrth 6, 1880.

Rhybudd Lleodrol.—Yn eisteddiad y 3ydd cyvisol, archodd y Cynghor gyhoeddi y pendervyniad canlynol:— Gorchymyner I'r Cadeirydd Gweinyddol rybuddio masnachwyr ac unigolion o'r Archiad o'r blaen yn gwahardd gwerthu, newid, na rhoi arvau tân nac ergydion, nac arvau trywanu hirach na 15 modvedd i Indiaid, o dan ddirwy drom a forfedu y cyvryw arvau eithrio hyn.—L. J., Nid yw trwyddedau y dollva yn esgus Cadeirydd y Cynghor; D. LLOYD JONES, Ynad.