Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/135

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwnaed hyn am y cyhoeddasai newydduron Buenos Ayres vod y gwladvawyr wedi gwerthu arvau i'r Indiaid, y rhai a gawsid yn eu dwylaw pan erlidid hwy ar gadgyrch Roca. Provwyd wedi hyny yn gwbl ddiameu mai camgymeriad dybryd oedd hyny.

SEVYDLU Y POST LLYTHYRAU.

Chubut, Mehevin 21, 1880.

At y Postveistr Cyfredinol.—Mae Cyngor y Wladva yn dymuno galw sylw y Weinyddva at anhawsderau postawl y sevydliad (1) Os na bydd postveistr yn drigianydd, hysbys o'r lle, ac yn medru yr iaith, mae perygl camgymeriadau lawer, drwy vod enwau y sevydlwyr mor debyg i'w gilydd (o leiav i'r anghyvarwydd); (2) Vod y bobl yn wasgaredig dros 15 league o wlad, ac mai trwy hysbysu naill y llall y gellid yn ddiogel ymddiried trosglwyddiad llythyrau drwy rywun adnabyddus; (3) Vod cyveiriadau pobl i dramor yn aml iawn yn drwsgl a gwallus, vel y dylai'r llythyrwr lleol vod yn wr deallus, abl i gywiro hyny, ac yn hysbys o Gymru a Lloegr; (4) Nis gall ond un cyvarwydd hevyd egluro y tablau, stampiau, a'r trevniadau. —L. JONES, Cadeirydd y Cyngor.



Yn y dealltwriaeth da oedd yn bodoli rhwng y Wladva a Swyddva Dyvudiaeth (1879) cawsid gan y Llywodraeth addaw devnyddiau at argae ar yr avon, vel ag i gadw'r dwr yn uchder dyvrhau o'r fosydd—ac yr oedd hyny yn anrhaethol bwysig i sevydliad lwyr ddybynai ar hyny. Govynid i'r sevydlwyr wneud y gwaith, ac i'r Llywodraeth roddi y devnyddiau. Ond gwahaniaethai pawb am y CYNLLUN goreu, ac aeth yn ddyryswch vel na wnaed y gwaith hwnw vyth, er ceisio droion wedyn. At yr ymdrech hono y cyveiria'r nodyn canlynol:—

{[c|Y Wladva, Ionawr 20, 1880.}} At y Cyngor.—Gan i mi ymgymeryd â'r swydd lywyddol eleni dan y meddwl y derbyniai'r Wladva yn llawen gynygion y Llywodraeth am argae, ac y gellid oddiar y sylvaen gyllidol hono ddwyn ein cyvathrach â'r Llywodraeth i furv ymarverol, ac y gallwn i yn y cyvryw gyvwng vod o wasanaeth i'r Wladva. Ond gan vod y Cyngor yn awr wedi methu gweled y fordd yn glir i ymgymeryd â hyny, ni welav vod angen mwyach am vy ngwasanaeth neillduol i yn yr achos pwysig hwnw. Hevyd, pan grybwyllodd y Prwyad Cyfredinol wrthyv yn Buenos Ayres am y peth, datgenais vy syniad yn hyderus y