Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/136

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

derbyniai'r Wladva y vath gynyg yn awchus. Ond gan i mi gamgymeryd syniad y Wladva mewn peth mor hanvodol, nis gall y byddai gan y Prwyad Cyfredinol nemawr hyder bellach mewn unrhyw awgrymion oddiwrthyv vi. Mae'n ovidus genyv draferthu'r Cyngor mor vuan wedi'r etholiad, ond o dan yr amgylchiadau ve welir na vyddai yn anrhydeddus ynwyv ddal y swydd ond hyd benodiad olynydd.—L. JONES.

Gwnaethid dau neu dri chynyg cyn hyn i godi argae, a llawer ymdrech wnaed i gyvuno a dyvnhau fosydd cyn cynllunio camlesi dyvrhaol cyfredinol o bob tu i'r avon. Danvonasai y Llywodraeth hevyd ddau wyddonwr—Stant a Rossi—i levelu a chynllunio camlesi: ond y gwladvawyr eu hunain berfeithiodd gynlluniau, ac a'u cariodd allan, ar eu traul eu hunain. [Gwel y benod ar y Camlesi.]

Yn y cyvnod hwn o egwyl yr oedd y Wladva yn arav waddodi i ddeall a gwynebu yr amgylchiadau a'r traferthion amrywiol oedd yn cylchynu y sevyllva. Gosodasid seiliau travnidiaeth a masnach [Gwel Masnach y Wladva]: deuai y brodorion i lawr i vasnachu (cyn y gadgyrch vilwrol), vel yr oedd y dravnidiaeth Indiaidd y pryd hwn yn ateg bwysig i'r sevydliad. Yr oedd problem y fosydd a'r camlesi ar ei haner, a'r gwladvawyr, vel yr hen Gymry gynt, yn methu cydweled ar lawer pwnge o drevniadau lleol, ac velly anesmwythyd a chwithdod yn cyniwair llawer o'r bobl newyddion.

XXIII.

Y VRWYDR AM LEODRAETH AC YMREOLAETH.

I ddeall y gohebiaethau sy'n dilyn rhaid crybwyll eto sevyllva y cysylltiadau gwladvaol yn ystod yr Ormes Swyddogol, gyda phenodiad J. Finoqueto yn Brwyad. Anelwig iawn oedd llynges y Weriniaeth Arianin y pryd hwnw: y llyngesydd oedd vrawd i'r Don Mariano Cordero oedd yn Briv Gabden y Borth, ac a ysgrivenasai y llythyr bygylog blaenorol. Yr oedd llynges Chili, debygid, gryn lawer yn amgenach: dyna'r adeg y cymylodd cyvathrach y ddwy weriniaeth parthed Patagonia, ac y danvonodd Archentina ei llynges i'r Groes—wen (Santa Cruz), a Chili ei llynges i Gydvor Machelan; ond cyvryngodd yr Unol Daleithau rhyngddynt. Llynges a llyngeswyr hen fasiwn oedd gan Archentina—parod i daro pan ddelai alw, gan nad beth vyddai y canlyniad. Ysgolorion o'r ysgol hono oedd cabden y borth ddanvonaaid i'r Wladva y pryd hwnw. Ysgrivenydd