Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/137

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

godasid yn swyddveydd y Priv Gwnstabl (chief of police) oedd Finoqueto. Ni wyddai y Wladva ond y nesav peth i ddim am yr anghydvod Chili —ond teimlid vod yr awyr yn llawn elvenau tervysg. Velly yr oedd anesmwythyd lleol y Wladva yn beth amheus Chilaidd i olwg yr ysgol vygylog hono.

Pan drymhaodd yr Ormes i'r vath raddau ag i garcharu a baeddu un o'r sevydlwyr, vel y cyveiriwyd uchod, barnwyd yn bryd i'r Wladva beri glywed ei llais yn y cyfro: gweinyddai D. Lloyd Jones vel Ynad, L. J. vel Cadeirydd y Cyngor, a thros eu cydwladvawyr cytunasant i ddanvon y nodyn canlynol at y Prwyad Finoqueto:—

Y Wladva, Tachwedd 3, 1881.

At y Prwyad Cenedlaethol D. Juan Finoqueto.—Yn enw y Wladva oll, a thros y Lleodraeth, yr ydym dan orvod i ervyn eich sylw,—vel yr awdurdod genedlaethol yn y Wladva,—i ddwylaw yr hwn yr ymddiriedwyd nid yn unig urddas y Genedl, eithr hevyd iawnderau y sevydlwyr vel deiliaid y Weriniaeth. Yr ydych bellach wedi gweled mor ovalus a pharchus yw y gwladvawyr i gydfurvio â'r cyvreithiau ac o'u hawliau cyviawn : os troseddent, byddai hyny o ddifyg deall. Mae yr awdurdodaeth gynrychiolwn ni, hevyd, yn cymeryd i ystyriaeth anhawsderau gweinyddu lle mor arbenig—heb drevniadau cyvlawn at bob amgylchiadau. Er hyny y mae jawnderau cyfredin cysegredig, ac y mae rheolau cyvreithiol sevydledig, wedi eu harver a'u cydnabod gan y Genedl, y rhai nas gellir eu hosgoi na'u tori yn ddi—berygl. Oblegid hyn y mae y Wladva wedi cyfroi drwyddi yn achos y digwyddiadau ddoe ac echdoe, pan gymerwyd yn garcharor ac y poenydiwyd un o`r sevydlwyr, heb na phrawv na rhybudd. Nid ydym yn mynegu barn na syniad am yr achos; ond, mae'n amlwg, nas gellir mewn unrhyw wlad wareiddiedig oddev y vath ymddygiad gormesol; ac velly, wedi gwrthdystio vel hyn yn ddivrivol rhag y vath drais, mae y gwladvawyr yn edrych atoch chwi i gosbi yr hyn a vu veius, ac i amddifyn y dyvodol gyda'r awdurdodau goruchel.—L. JONES, Cadeirydd y Cyngor; DAVID LLOYD JONES, Ynad Heddwch.

Chubut, Tachwedd 12, 1881.

At y Gwladvawyr Luis Jones a D. Lloyd Jones.—Gan i chwi ddanvon yn swyddogol i'r Brwyadva hon yn enw Cyngor ac Ynad, a chan vod yn hysbys na vodola yn y sevydliad hwn awdurdodau cyvreithlon wedi eu cymeradwyo gan y Llywodraeth na definiad o'u galluoedd—heblaw yr awdurdodau cenedlaethol, yr wyv yn syml ddychwelyd i chwi y nodyn, vel y galloch ei adwneud yn y furv briodol, gan ddeisebu vel sevydlwyr, ac nid vel awdurdodau, modd y galler yn gyvreithlon 1oddi sylw iddo a'i ddanvon—os bydd eisieu—i'r uchawdurdodau.