Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/139

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

genych ond haeru nad oes yr un ysgriv furviol oddiwrth y Llywodraeth, mewn cist haiarn, yn datgan hyny mewn geiriau ! Hyny mewn gwlad vel yr eiddom ni sydd mor amiwd ac anghyvlawn hyd yn hyn mewn pethau llawer iawn pwysicach. Mae ein Lleodraeth ni yn gweithio'n rheolaidd er's 16 mlynedd, ac nis gellir ei dyrchavu na'i darostwng drwy ddyvodiad a mynediad y swyddog yma a'r swyddog arall. Byddai hyny yn gam âg urddas y Llywodraeth, ac â fyniant y Wladva. A goddevwch i mi ychwanegu, Br. Prwyad, mai camgymeriad mawr vyddai gwyro y Wladva oddiar y llwybr sydd wedi ei gadw mor union hyd yn hyu. Byddai ymddwyn yn drahaus at bobl sydd wedi ymwreiddio yn y wlad, a'u plant cyn hir ar rôl ei difynwyr, yn anheilwng o'r genedl Arianin. Mae Chubut yn ganolvan i Diriogaeth ddyvodol Patagonia, a disgwylir iddi gynevino â llywodraethiad y diriogaeth hono yn deilwng o'r Weriniaeth. Hyderav gan hyny y gwelwch, gan nad pa furviau sydd ar ol, vod gan y Wladva bob hawl i'w Lleodraethiad ei hun ac i barch y Genedl.—L. JONES, Cadeirydd y Cyngor.

Tra'r oedd y berw hwn ymhlith y sevydlwyr, yr oedd Don Juan Dillon a'r Llywodraeth o'u tu hwythau, yn ymysgwyd peth i gyvarvod yr helynt, vel y dengys y nodynau canlynol:Buenos Ayres, Chwev. 22, 1882.

Tervynav y llythyr hwn drwy eich anog yn y Wladva i vod yn ochelgar a govalus gyda'r awdurdodau lleol y mae'r Llywodraeth ar vedr benodi, a myned ymlaen vel y gwnaethoch hyd yn hyn—a hyny yn vwy velly'n awr, gan vod Dr. Irigoyen (y Gweinidog newydd) yn favriol iawn i ddyvudiaeth Gymreig: gallwch ddisgwyl oddiwrtho ev bob chwareu teg a chevnogaeth. Byddai yn dda hevyd ped ysgrivenech ato ev yn blaen a manwl eich hunan, a diau genyv y derbynid eich nodiadau gyda chymeradwyaeth a gwerthvawrogiad. JUAN DILLON.

Gwnaed hyny yn vyr iawn, vel y canlyn:—

Chubut, Mawrth 13, 1882. At y Gweinidog Cartrevol, Dr. Irigoyen. . . . Avlonyddais gyniver waith ar y Llywodraeth ynghylch cael rhyw vath o Leodraeth i'r Wladva, vel na wnav y waith hon ond eich adgovio o ddeisyviad y sevydlwyr i gael tervyn buan ar eu helbulon. Nid ydym ni yma yn ymdraferthu parthed dyledswydd pwy ydyw ein rheolaeth a'n dybynaeth yr hyn y mae ein dawr ni ynddo ydyw, gweled cyvlawniad eich addewid chwi o gymhwyso atom gyhoeddeb y Chaco, 1872, mewn rhyw furv ymarverol. Ni phoenay chwi gyda manylion ein sevyllva wladol resynus, a llwyr saviad yr ymvudiaeth Gymreig tuag atom. —L. JONES.