Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd vel cwrlid amryliw o bobloedd ac ieithoedd a syniadau ! Yna, wele ninau yn Ne Amerig a Mexico, yn ymlunio i furviau alwasai Darwin yn dueddion i wahaniaethu neu eilebu—y cyf Hispaenig, o arlliw Indiaidd; ac yna haen ddiweddarach o'r un cyf Lladin—Italaidd, wedi ymgawlio gydag Almaeniaid, Prydeinwyr, ac eraill. Ystyrier eto yr ymrwyvo ymhlith Awstriaid, Hungariaid, Bohemiaid, Pwyliaid, Serviaid, Sclaviaid, Rwmaniaid, Bwlgariaid: a chyda hwy y Norsiaid, Daniaid, Flandrwys, Dwts, Llydawiaid, Gwyddelod, a ninau Gymry. Adgovier gweledigaethau Daniel, ac evryder hanes yn ol Grote, Gibbon, Allison, &c., a dyweded gwleidyddwyr Cymru i mi wed'yn—A raid cymeryd yn ganiataol ryw wedd wleidyddol sydd yn ymddangos oruchav ar pryd hwn ?

Oddiar hyn oll, ergyd apêl y Wladva at wleidyddwyr Cymru yw ar iddynt, yn yr ymdrech am Ymreolaeth Gymreig eangu ar y syniad, vel ag i gynwys cyvathrach Pobl o'r un Dyhewyd: a thrwy hyny hevyd eangu cylch eu gwleidyddiaeth eu hunain, rhag dirywio ohoni i vod yn gymydaeth gul. Bydded hyn vel math o Wleidyddiaeth Dramor Gymreig iddynt a byddai yn Gylch Dylanwad" IACHUS AC EANG IAWN, gwerth ymgyraedd ato, tra yn gadwraeth efeithiol ar y nodweddion Cymreig goreu yr ymfrostiwn ynddynt.

L. JONES

Caernarvon a Chaergybi,

Dy'gwyl Dewi Sant, 1898.