Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/141

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Myn gohebydd arall, wrth gevnogi y prwyad, vod y Cymry drwy amcanu gwneud hyn yn y wlad hon yn gwneud peth na veiddiant wneud yn Lloegr, lle y gwrthodir yn bendant iddynt arver eu hiaith.' Ond dylasai y gohebydd hwnw wybod y caniateir haner cant o ieithoedd yn yr ymherodraeth Brydeinig. Wele Canada yn engraift, lle y siaredir Francaeg a Saesneg vel eu gilydd, hyd nod yn y Senedd. Nid yw y Cymry mor fol a gwrthod unrhyw addysg, ac ni wrthodant byth ddysgu Hispaenaeg, gan vod eu dyvodol bydol, deallol, cymdeithasol, a moesol yn y wlad yn dybynu llawer ar hyn: ac mewn yspryd gwrthnysig yn unig y cenedlir y syniad arall. Gwn hanes vy nghydwladwyr y tu yma a thu draw i vôr, ac ymrwymav nad oes ddichon i'r Weriniaeth gael poblogaeth dawelach, vwy deallus, a llavurus. Nid oes anvoddogrwydd yn bod; ac os ydynt heb ddysgu iaith y wlad, y mae hyny am nad oes neb i'w dysgu, neu am nas gall yr un athraw ddysgu cylch o 40 milldir. Y mae ynvydion ymhob cymdeithas, eithr pob dyn pwyllog a ovala na chondemnia Wladva gyvan am anoethineb, hwyrach, ychydig anwybodusion.—D. LEWIS."

Ar ben y 7 mlynedd hyny—oblegid yr ormes vlin oedd ar y Wladva gadawsid i'r hen weinyddiad "Cyngor syrthio i vrusgrellni, vel nad oedd yn aros ond y "llywydd" (J. C. Evans), a'r trysorydd (H. H. Cadvan), a'r Ynadva (yn ochelgar): Velly Rhag. 18, 1882, galwodd y llywydd gyrddau yn yr holl ardaloedd, gydystyried y sevyllva, a phenodi yno gynadledd i dravod yr holl amgylchiadau. Yn y gynadledd hono pendervynwyd:—(1) Danvon eilwaith ddirprwyaeth at y Llywodraeth. (2) Cymeryd achlysur o'r casglu ystadegau blyneddol averol i wasgu ar y prwyad ei gamliwiad a'i anghywirdeb yn y davlen vlaenorol, a govyn iddo gymeryd cynorthwy lleol o ymddiried y bobl at y gwaith. (3) Ymrwymo i'n gilydd i dderbyn dyvarniadau ynadol athrywynol o'n plith ein hunain, vel peth mwy boddhaol na'r dull presenol o weinyddu iawnder. Cynaliwyd y cyrddau yn yr amrywiol ardaloedd wedi y gynadledd, a chytunwyd yn unvrydol ar y pendervyniadau uchod. Savle yr Ynadva, vel y gwelir, y rhoddid vwyav o bwys arni—ac ni veddylid vawr y deuai'r ergyd yn y dull y daeth.

Rhag. 20, danvonodd y prwyad nodyn yn govyn i L. J. alw yn y brwyadva "i wneud mynegiad.' Yno "mynegodd iddo omedd rhoddi ei ystadegau, am (1) vod adroddiadau y llynedd mor gamarweiniol, vel dangosiad o gyvlwr addysg a moesau y Wladva, vel y barnai mai gomedd vel hyny vyddai y gwrthdystiad mwyav efeithiol. (2) Mai y dull mwyav boddhaol i ystadegu sevydliad gwasgarog vel hyn o bobl amryw—ieithog vyddai drwy gydweithrediad lleol o ymddiried. (3) Nad ydys