drwy hyn yn beio ymddygiad neb yn bersonol, ond yn achwyn ar y reolaeth a'r dull o'i gweinyddu. Wedi arwyddo y mynegiad uchod, dywedwyd wrtho ei vod yn garcharor, am ddiwrnod neu ddau," nes cael tystiolaeth rhai eraill oedd yn y cyngrair "i herio'r awdurdodau." Pan ddeallwyd vod L. J. yn garcharor, cyfrowyd yr holl Wladva: cynullai y cymdogion i siarad y peth, ac yn eu plith R. J. Berwyn. Hònai y prwyad vod Berwyn yn anos y gwladvawyr i gipio L. J., ac ymosod ar y brwyadva, a chymerai arno vod gan y bobl arvau: ac i vewn a Berwyn at L. J. Galwodd Finoquetto ar y swyddog (cabden y borth a dynion y dollva) "i gymeryd arvau at amddifyn y vaner Arianin." Ni chafai y carcharorion wel'd eu gilydd na'u teuluoedd —yr hen arver Hispaenig a elwir incomunicado, a buont velly rai dyddiau.
Ond hwyrach mai mwy boddhaol yw dodi yma yr adroddiad canlynol o'r helyntion ddilynodd, dynwyd allan ar y pryd gan bwyllgor dewisedig o blith y rhai oeddynt wyddvodol:
"Yr oedd galw ar un o sevydlwyr blaenav y Wladva i'r brwyadva 'i wneuthur mynegiad,' heb na gwys na chyhuddiad, ac yna ei gadw yn garcharor heb brawv na dedvryd, yn beth mor chwith i'n syniadau ni am iawnder, vel y cyfrôdd pawb. Pan ymgynullodd y pentrevwyr, danvonasant ddau o'u plith yn genadon i'r brwyadva i ovyn am ba beth yr oedd L. J. yn garcharor, ac a ryddheid ev ar veichiavon. Rhag. 22, daeth y sevydlwyr o'r wlad ynghyd i Drerawson, i gynal cyrddau trevnus dan gadeirydd: a danvonwyd eto genadwri i'r brwyadva i'r un perwyl. Yr atebiad oedd gorchymyn ymddiheurad "am ymgynull yn vygythiol." Parhaodd y dravodaeth drwy dranoeth, a chaniatawyd i'r ddirprwyaeth weled y carcharorion. Wedi eu gweled a chael ymddiddan â hwy, penodwyd y pwyllgor isod i ovalu am yr achos, ac aeth agos bawb adrev i'w cartrevleoedd y noson hono. Wedi 10 niwrnod o garchariad velly, rhyddhawyd L. J. a Berwyn ar wystl eu gair i ymddangos pan elwid arnynt. Ond cyn hyny danvonasid ysgrivenydd y brwyadva o amgylch y sevydliad gyda phapur i'w arwyddo [gwel isod]. Ar ol ymddiried yr achos i oval y pwyllgor a ddewisasid (sydd a'u henwau isod) cynaliwyd cyrddau ymhob ardal i egluro y mater heb na chêl nac ovn. Gan hyny, hydera y pwyllgor y gwel y Llywodraeth ddarvod i'r bobl ymddwyn yn bwyllog a gweddaidd dan amgylchiadau digon cyfrous. Balchiant yn awr o'u hen arver vel breinwyr rhydd, yn gallu ymddwyn mor wahanol i'r hyn yr ymddygid atynt hwy; a gobeithiant y gwel y Llywodraeth oddiwrth hyn vod unrhyw Leodraeth ymddiriedir i'r Wladva yn ddiogel o gael ei harver mewn pwyll a deall. Deallir vod ysgrivenydd y brwyadva yn cynull enwau wrth bapur amwys yn hòni nad ydyw ond datganiad o warogaeth i'r