Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/143

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llywodraeth, ac y gallai rhai ei arwyddo yn ddiveddwl. Ond mae y pwyllgor hwn, dros yr holl Wladva, yn gwneuthur y mynegiad hwn i'r Llywodraeth, vel y gwir adroddiad syml.

Wm. Robt. Jones, cadeirydd; R. O. Jones, ysgrivenydd; David Lloyd Jones, Maurice Humphreys, Joshua Jones, Evan Parry, H. H. Cadvan, Ŵ. Rich. Jones.

[Y papur y cyveirir ato:—"Oblegid y digwyddion diweddar o garcharu L. J.—vel na vo i'r Llywodraeth ein cymeryd ni gyda y rhai beius yn y mater hwn, ydym yn datgan ohonom ein hunain ein bod yn parchu ac yn derbyn yr awdurdodau cenedlaethol yn y Wladva hon a gynrychiolir gan y Prwyad."]

Danvonwyd L. J. a Berwyn i Buenos Ayres, ac elai Finoquetto gyda hwy yn y llong; wedi cyraedd yno aeth pob un i'w lety. Dranoeth, aeth y tri gyda'u gilydd i Swyddva Tiroedd a Gwladvaoedd: aeth y prwyad i mewn at y penaeth, a phan ddaeth yn ol ymhen rhyw 10 munud, "Gadewch i ni vyned," meddai, "yn y cerbyd." Ni ovynasid ac ni roddasid unrhyw eglurhad, ac ni wyddid i ba le yr elid. Y "Policia" ydoedd! Yno, drachevn, ni ovynwyd ac ni roddwyd ond yr enwau a'r oed. "Ni welsom Finoquetto mwy am ddyddiau rai. Aed a ni drwy ryw gelloedd avlan a barau haiarn iddynt, a dangoswyd dau vwrdd i ni orwedd arnynt—'Ac yn ufern eve a gododd ei olwg." Yr oedd hyny voreu Sadwrn. Cawsai L. J. gyvle (drwy dalu) i ddanvon gair at gyvaill iddo, a daeth hwnw i'w weled at yr hwyr, gydag addewid Dr. Irigoyen y gollyngid hwy yn rhydd y diwrnod hwnw. Deallwyd wedyn ddarvod i'r prwyad vedru oedi yr archeb yn y swyddveydd: a bu raid treulio y nos hono ar y byrddau moelion, ynghwmni lladron a gwallgoviaid, a llygod freinig—amryw o'r rhai olav y bu raid cydio ynddynt i'w lluchio i'r llawr pan avaelent mewn tamaid o'r cnawd. Nawn dranoeth galwyd arnom at y Priv Gwnstabl, a chymerwyd ein henwau vel o'r blaen: yna daeth hen voneddwr o Wyddel atom aethai yn veichiau drosom—Don Miguel Duggan, o gofa bendigaid—gŵr wedi arver cymwynasu cydwladwyr trallodus, ac wedi clywed drwy gysylltiadau nodyn L. J. am yr helbul—a ddaethai oddiwrth ei vrecwest, canol dydd Sul, i'n gosod yn rhydd, o ewyllus da at y Wladva. Bendith ar ei enw!—taw y mae eve wedi myn'd i'w orfwysva er's blyneddoedd.

Nid peth anghyfredin yn Buenos Ayres y dyddiau hyny oedd carcharu eu gilydd dan yr esgus o gamweddau gwleidyddol. Yn y cellau yr un pryd a'r Gwladvawyr yr oedd Dr. Manuel Quintana ddaeth wedi hyny yn briv weinidog yn Arlywyddiaeth Saenz Pena,—a archasid i garchar gan Dr. Victor Molina, vel cadeirydd y bwrdd ethol, am anuvudd-dod.