Gwnaed sylw mawr o helynt y Wladva yn newydduron Buenos Ayres. Ebai y Nacion (y priv newyddur): "Cynorthwywyd sevydlwyr y Wladva ar y cychwyn oblegid eu savle neillduol. Ar ba delerau y gwnaed hyny? Ar y telerau o barchu a chyvlawni cyvreithiau y Weriniaeth, ac uvuddhau i'w hawdurdodau, a'u gwneud yn vreinwyr Arianin bob yn ychydig. Velly mae gwladvawyr Chubut yn Arianin—rai oblegid gadael eu gwlad a mabwysiadu gwlad newydd, a'r lleill oblegid eu geni yma, a chan hyny maent yn yr un sevyllva ag unrhyw van arall o'r Weriniaeth, er y gwahaniaeth iaith a chenedl. Pam, ynte, y bu'r ymravaelion hyn, a pha gyvriv i'w roddi am y gwrthwynebiad i'r awdurdodau benodasid gan y Llywodraeth? Bu hyny oblegid gwyro cyvreithiau a sevydliadau y wlad—oblegid anaturioli y gyvundrevn gyvansoddiadol—oblegid y danvonir i'r gwladvaoedd ORCHYMYNWYR yn lle swyddwyr da—vel yr eglur ddengys adroddiad Swyddva Gwladvaoedd am y vlwyddyn o'r blaen. Ac yn awr pan yr ydys newydd erchi ethol ynadon a chyngorau i ddwy ranbarth y Chaco, yn ol y gyvraith, dylid adgovio vod gwladva Chubut er's hir amser mewn sevyllva addas i weinyddu ynadva a lleodraeth, a phe buasid wedi gwneud hyny yn gynt arbedasid yr holl helynt avreolaidd a vu'n ddiweddar yno. Dvwedasid yn un o adroddiadau y Swyddva Dirol—Mae bod heb gyvreithiau a threvniadau at lywodraethiad a gweinyddiad y gwladvaoedd cenedlaethol wedi peri cyfroadau divrivol yn Chubut, a rhoddi achlysur i chwedlau disail am y sevydlwyr vel avlonyddwyr y wlad. Eithr dywed y gwladvawyr—Archentiaid ydym, a govyn yr ydym sut y mynech i ni vyw ac ymddwyn hyd nes y deddvoch drwy gyvraith neu gyhoeddeb weinyddol.' Nid rhyvedd vod camddealltwriaeth wedi codi. Dengys yr helynt y dylid sevydlu llywodraeth leol briodol, a thrwy hyny at-dynu y sevydlwyr at eu gilydd, vel y gwna'r Unol Daleithau."—Nacion.
Awdwr y sylwadau uchod oedd neb llai na Dr. Rawson.
Yn y cylchoedd Prydeinig drwy y Weriniaeth oll parodd y carchariad gyfro dirvawr. Ebai y Buenos Ayres Standard: Mae carchariad Mri. Jones a Berwyn yn engraift eto o'r bwnglera gweinyddol sydd yn andwyo ein gwlad. Yr ydym yn honi cevnogi dyvudiaeth pobl atom, ond chwith iawn yw y dull gymerwn i wneud hyny. Wele ddau voneddwr adnabyddus o bob tu i'r Werydd, a'u dylanwad wedi bod drwy'r blyneddau gyda buddianau goreu y wlad, yn cael eu danvon i garchar gyda throseddwyr a gwallgoviaid i'w dwyn ger bron y llysoedd! a hyn oll oblegid chwilen wyllt tipyn o swyddog yn y police! Evallai y dywedir wrthym mai drwy gamddealltwriaeth y bu'r peth dywedwn ninau vod dealltwriaeth rhai o'n hawdurdodau yn galw am driniaeth o oleuni dreiddia drwy ddwlni mawr lawn. Y peth sy'n ddyrus i ni yw y carcharu. Pa gyvraith