Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/146

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddinas hon. Dioddevais mewn amynedd yr holl helbulon a sarhad a roddwyd arnom, yn y llawn obaith y gelwid arnav o'ch blaen i roddi cyvriv am vy syniadau ac ymddygiadau, ac y cawn velly gyvle i ddangos i chwi mor anheilwng oedd y cyhuddiad wneid yn ein herbyn. Dywedir wrthyv yn awr mai y pendervyniad sydd wedi ei hysbysu i mi heddyw yw yr unig lwybr gweinyddol dichonadwy, heb vyned i'r llysoedd—ac velly nad oes ond diolch am hyny. Ond gan vod y "pendervyniad yn cynwys y cyhuddiad, nis gallav ddychwel i vy nghartrev eto heb adael ar gov a chadw i'r Llywodraeth yr hyn hevyd vynegir yn y pendervyniad—"Na vwriadwyd sarhau yr awdurdodau" a chwanegav yn awr na sarhawyd mohono genyv o gwbl." Dengys adroddiad pwyllgor y sevydlwyr vod ymddygiad y Wladva wedi bod yn bwyllog ac ystyriol, yn ol arver pobl waraidd. Ond a rhoddi o'r neilldu y mesurau y barnodd y Prwyad yn rheitiol eu cymeryd yn yr helynt, hyderav y sylwir yn glir vod yr holl gamddealltwriaeth wedi codi oblegid y dull chwith o weinyddu achosion lleol y Wladva. Yr oedd savle y prwyad cenedlaethol mor amwys—heb reolau na deddvau na dulliau i lywio wrthynt, vel yr oedd yn agored ar unrhyw vunud i ddirywio yn unbenogaeth bersonol beryglus—i'r hyn hevyd yr aeth. Chwaneger at hyny yr anhawsder o vod heb ddeall iaith y bobl (ac velly eu syniadau), a chyda hyny y duedd o edrych ar y sevydlwyr vel tramoriaid i deyrnasu arnynt, ve welir yn amlwg vod rheolaeth prwyad yn anvoddhaol ac anesmwyth. Dyna anhawsder Chubut er's talm. Yn vy natganiad cyntav wrth y prwyad nodais hyn allan yn bendant.

Tra yr oedd y pethau hyn yn digwydd yn y Wladva, deallasom wedi hyny, vod y Llywodraeth wedi cychwyn gwneud trevn ar yr amwysedd a'r anhawsderau, drwy gyvraith y Chaco. Ervyn yn unig wnawn yn awr am vrysio hyny. Nid oedd y digwyddiadau diweddar, o'u hawn ddeall, ond eglurhad o angen ac addasrwydd y Wladva i Leodraeth. Byddai ensynio vod y Wladva yn anfyddlon i'r Weriniaeth yn sarhad ar hanes ein 18 mlynedd gweinyddiad lleol. Gellwch vod yn sicr, pan gerir allan gyhoeddeb Ebrill 11, 1882, yn ol yr amlinelliad gyhoeddir ar gyver y Chaco, y mawr werthvawroga y Wladva hi, ac y cariant hi allan yn ddeallus.—L. J.