Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/147

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXIV.

YMWELIAD M. D. JONES A D. RHYS: AR GANOL Y VRWYDR LEODROL.

Yn mis Mawrth, 1882, heb wybod dim wrth gychwyn oddicartrev am y traferthion a'r ormes oedd ar y sevydliad, daeth yr Hybarch M. D. Jones i ymweled â'r Wladva sylvaenasai ac a hyrwyddasai eve: a D. Rhys, Capel Mawr, yn gydymaith iddo. Y pryd hwnw y cavodd gyvle gyntav i weled peth o'r wlad, a deall drosto'i hun sevyllva a gweddau pethau yn y sevydliad. Nid oedd namyn rhyw 40 o oedogion y "Mimosa" i'w gyvarch ar ei laniad—ond llu mawr o'u plant. Eithr eve a vendithiasai niveri lawer o'r minteioedd dilynol, drwy eu gweled yn cychwyn o dro i dro, a rhoi "Duw yn rhwydd" iddynt. Dechreuasai rhai o'r rheiny lwyddo yn y byd (vel y llwyddai'r Wladva), a theimlo peth diolchgarwch i'r gŵr aberthasai gymaint i wneud iddynt hwy gartrevi a rhagolygon; ac a savasai yn gevn i'r mudiad am 20 mlynedd. Yn ei gydymaith, D. Rhys, a chyvarvyddiad â'i hen ddisgyblion a chyd—lavurwyr D. Lloyd Jones, A. Mathews, J. C. Evans, a L. J., cafai y boddlonrwydd mwynhaol o deimlo vod ei "wobr yn vawr iawn," a'i apostolaeth Wladvaol yn cael ei llawn werthvawrogi gan y rhai wyddent ei mantais yn dda. Wedi yr ymgyvarchwel i weled llu o hen gyveillion, a chydmaru adgovion ac argrafion am y wlad a'r bobl, a'r gobeithion; ac yna gael pregethau a chyrddau hwyliog a lluosog, lluniwyd mintai i roi gwibdaith o vis gyda D. Rhys i'r berveddwlad anhysbys, ac i M. D. Jones, vel gŵr 60 oed (ormod i daith velly), achub yr egwyl hono i weled ac amgyfred y wlad, ynghyd a'r sevyllva yn gyfredinol. Wedi y carcharu a'r cythryvlau yr oedd dda i L. J. gael y wibdaith hono gyda D. Rhys, a chael yn gymdeithion Grif. Huws, Esau Evans, D. S. Jones, R. O. Jones, a W. T. Williams, gan vyned i dueddau y Télsun a Banau Beiddio, ac adrev yn ol drwy ddyfryn Kel-kein a Hirdaith Edwyn. A bu y daith hono yn broviad newydd ac adnewyddiad yspryd i D. Rhys. Yn y cyvamser gwnaed cwmni bychan arall i roddi wib gyda M. D. Jones ar hyd y dyfryn-dir gyda'r avon mor belled a gwaelod yr Hirdaith, i'r havn greigiog alwyd oddiar hyny Havn Mihangel.

Tra gwnelid y gwibdeithiau hyn, travodai y sevydlwyr yr amgylchiadau cyfrous ddigwyddasai y misoedd blaenorol, a chafent varn ac ymgynghoriad M. D. Jones a D. Rhys i'w cynorthwyo. Canlyniad yr oll oedd penodi D. Ll. Jones i vyned yn ddirprwy gyda M. D. Jones a D. Rhys at yr awdurdodau (drwy Profeswr D. Lewis) yn Buenos Ayres i gyvlwyno