Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/148

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eto gais y Wladva am Leodraeth ac Ymreolaeth. Gwnaed hyny yn furviol vel isod, ond bu llawer sgwrs ac ymweliad heblaw hyny:

Chubut, Mehevin 10, 1882.

Y rhai sydd a'u henwau isod, trigolion Gwladva Chubut, tra yn datgan eu hymlyniad wrth gyvansoddiad, cyvreithiau, a threvniadau y Weriniaeth, a'u pendervyniad i vod yn rhanog yn nadblygiad ardderchog dyvodol eu gwlad vabwysiedig, a'u llwyr argyhoeddiad nad oes ddeiliaid mwy heddychol, diwyd, a fyddlon gan y Weriniaeth a ddymunant yn barchus alw sylw at y faith eu bod yn goddev colledion dirvawr drwy ymyriad y Prwyad yn achosion lleol y Wladva. Mae y Cyngor a'r Ynad, drwy gydsyniad y Weinyddiaeth, vyth er 1865 wedi eu hethol gan y sevydlwyr eu hunain; ac yr oedd cyvraith Dyvudiaeth 1876—8 yn trevnu gweinyddiad lleol gwladvaoedd i vod yn llaw Cyngor ac Ynad. Mae tuedd mewn dyryswch vel hyn i barlysu diwydrwydd a llwyddiant y Wladva. Yr ydys gan hyny yn govyn yn barchus i'r Llywodraeth roddi gallu i'r awdurdodau lleol i dravod yn llawn ac efeithiol y buddianau lleol a berthynant i fyrdd, camlesi, iechyd, heddwch, diogelwch ac addysg y lle—pob peth perthynol i Leodraeth (municipal). Yr ydym gan hyny yn deisyvu ar Eich Urddas i gymeryd i ystyriaeth y cais hwn gynted y bo modd, a symud yr anghyvleusderau a'r niweidiau y cwynwn rhagddynt.

Arwyddwyd gan 247 o'r sevydlwyr: cyvlwynwyd gan D. Lloyd Jones.

Wrth gyvlwyno y ddeiseb yna ysgrivenai y dirprwywr vel y canlyn: Mae y Wladva agos i vil o villdiroedd o'r briv ddinas, ac ar ei phen ei hun yn gwbl. Os codai rhyw anhawsder gweinyddol ag y byddai raid ei basio i'r Llywodraeth, byddai o reidrwydd visoedd heb ei setlo. Oblegid y neillduwch hwn nid oes i'r sevydliad ddim byd yn gyfredin neu debyg gydag un man arall o'r Weriniaeth ond gyda'r môr, a chan hyny mae ei holl vaterion yn lleol. Rhaid rhoddi pwys ar hyn i vedru deall y sevyllva. Gwedd arall arni yw, y byddai pob erw o'r dyfryn yn anialedd llwyr heb ddyfrhad. Mae y sevydlwyr wedi cwblhau 89 milldir o briv gamlesi, a 100 milldir o ganghenau. Gyda hyny, tra yr oedd y gwyddonwyr yn levelu a chynllunio, gweithiodd y Wladva argae werth £3,000, vel y mae'r sevydliad wedi soddi £25,000 mewn gweithiau cyhoeddus yn dwyn elw—a diau vod y rhai di—vudd gymaint a hyny drachevn—taw y mae proviad y Wladva wedi bod yn ysgol ddrud iawn. Mae y dyfryn yn 44 milldir o hyd wrth 4 o led —dwyrain a gorllewin: yr avon yn 60 milldir o ben y dyfryn i'r môr, gan ymdroelli i bob cyveiriad, a gwneud troveydd lawer. Mae llinellau tervyn y fermi yn tori y llinell ar ongl o 45: mae'r