Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/150

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb gyvieithydd. Mae y Cymry yn bobl ddwyieithog, ac y mae llaweroedd O blant y Wladva yn hyvedr i siarad Cymraeg, Saesnaeg, a Hispaenaeg.

"Ervyniem gan hyny am dervyn buan ar y mater hwn. Gadawer i'r Wladva deimlo vod gweinyddiad ei hachosion lleol ei hun yngoval deddvau uniawn, weinyddir gan ddynion yn meddu ei llawn ymddiried. Mae traferthion gweinyddiad wedi bod er's blyneddoedd yn rhwystr i'n fyniant diwydol. Ni vuasai ond angenrhaid yn rhoddi y nerth i wneud yr ymdrechion ydys wedi wneud: ond bu'r ymdrechion hyny yn ddadblygiad ar alluoedd vyddant bellach yn help mawr i'n llwyddiant cyfredinol. —D. LLOYD JONES.

Dychwelodd M. D. Jones a D. Rhys i Gymru yn yr ymwy. byddiaeth eu bod wedi gweled y wlad a'r bobl, a chael cyvle i hyrwyddo dealltwriaeth rhwng y Wladva a'r Llywodraeth Arianin—heb vawr synied y byddid agos i dair blynedd wedyn cyn cael y Lleodraeth y brwydrid am dani.

XXV.

OEDI A GWINGO NES CAEL.

Dychwelasai D. Lloyd Jones o'i ddirprwyaeth at y Llywodr aeth yn Awst, 1882, gydag addewidion Dr. Irigoyen i ganiatau lleodraethiad yn ol amlinelliad Cyfraith y Chaco. Ond aeth y vlwyddyn hono heibio heb i ddim gael ei wneud tuag at hyny. Ganol y vlwyddyn ddilynol synwyd y Wladva pan gyhoeddwyd y nodyn canlynol yn newydduron Buenos Ayres oddiwrth y Prwyad:—

Chubut, Ebrill 13, 1883.

At Dr. Irigoyen.—Mae genyv i̇'ch hysbysu vy mod wedi dychwelyd yma yn ddiogel, ac wedi cymeryd eto awenau y brwyadva―am yr hyn y mae'r sevydlwyr wedi eu mawr voddhau, yn ol vel y mae llawer ohonynt wedi vy hysbysu. Yr wyv yn brysur drevnu yr ysgol—sylvaen addysg y bobl, vel y byddo addas i'r hyn y bwriadwyd hi. Yr wyv hevyd yn rhanu y gweithredoedd tir i bawb y perthynant, yr hyn sydd yn dangos y cyvlawnir pob addewid wna y Gweinidog; ac y mae gweled eich enw chwi wrthynt yn brawv o'r sylw ydych yn roddi i'w hachosion lleol, ac yn ernes o'r bwriadau da sydd genych tuag atynt. Digon yw dweud hevyd vy mod yn arolygu y materion lleol—megys fyrdd, maesydd, claddveydd, adeiladau, &c., yn yr