Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/151

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn y'm cynorthwyir gan bwyllgor o'r sevydlwyr, tuag at lwyddaint y lle, yr hyn yw vy holl uchelvryd, ac yn yr hyn y gobeithiav lwyddo gyda chevnogaeth grev y Gweinidog. Mae cyfro mawr yma oblegid darganvod aur a glo yn y cyfiniau: llawer wedi rhuthro yno: ond yr wyv vi wedi cymeryd vy mesurau: danvonav adroddiad a samplau i chwi : nid yw ond taith pedwar diwrnod oddiyma: av yno, a chyda mi vwnwr proviadol i archwilio wyv anghredus vy hun, ond y mae yno aur yn ol pob adroddiad ellir gredu. Gorchymynwch eich fyddlon isswyddog—JUAN FINOQUETTO.

Wrth weled adroddiadau mor gamarweiniol, a'r hir oedi cychwyn dim mesurau at roi cyvraith y Chaco mewn grym drwy y rhaglaw Winter, vel yn y Diriogaeth nesav, dechreuodd y Wladva anesmwytho eilchwyl a gwingo, ac velly danvonwyd y llythyr canlynol at y Gweinidog Cartrevol:—

Chubut, Gorf. 20, 1883.

Wedi cael ar ddeall eich parodrwydd i hyrwyddo'r Wladva i gael ei Lleodraeth briodol; ac erchi i'r rhaglaw Winter barotoi etholres gyfelyb ag yn y Chaco o'r rhai a hawlvraint ganddynt i ddewis eu hawdurdodau lleol—bu lawen gan y Wladva. Eithr ysywaeth daeth i'm gwybyddiaeth yn ddiweddar vod hyny eto wedi ei ddyrysu a'i oedi yn amhenodol, drwy drovaus gyvrwysder y prwyad yn dadleu mai nid y rhaglaw sydd i'w orchymyn ev, eithr Swyddva Tiroedd a Gwladvaoedd. Mae hyny, a digwyddiadau croesion beunyddiol y lle, yn peri i mi ovni y bydd i'r prwyad eto vedru dyrysu y bwriadau da ddangosir yn y gyvraith newydd, a'r gorchymyn i'r rhaglaw Winter. A rhag bod oedi ac ystrywiau eto, dymuna'r Wladva awgrymu yn barchus i'r Llywodraeth ar iddi benodi rhyw wr neu ddau o'r brivddinas yn ddirprwyaeth arbenig i sevydlu yn y Wladva y Leodraeth linellir yn y gyvraith newydd. Ac o rhynga vodd i'r Gweinidog, cyvlwynant iddi enwau Don Juan Dillon a Profeswr Lewis, o'r Coleg Cenedlaethol, vel rhai tra addas i'r neges arbenig hono.—Dros y Wladva.—L. J.

Danvonwyd nodyn cyfelyb at y rhaglaw Winter, yr un pryd, ac yn ervyn arno vrysio erchi yr etholres. Ond yr oedd y swyddog hwnw yn vawr ei fwdan yn cario allan gynlluniau cadgyrch Gen. Roca ar y brodorion. Yn Awst, 1883, daeth ar y neges hono i'r Wladva, ac arosodd ddeuvis, heb wneud yr un osgo at lunio etholres. Lletyai y rhaglaw gyda'r prwyad, a chymdeithion hwnw, o reidrwydd, oedd o'i gylch. Wrth weled yr hir oedi hwnw wedyn, a gwybod o ba le y delai pob ystryw, furviwyd pwyllgor i vyned at y rhaglaw yn furviol, a chyvlwyno iddo y nodyn welir isod. Deallwyd hevyd y pryd hwnw nad oedd " Rhaglawiaeth Patagones ond peth cwbl ddarbodol—mai ei neges ev oedd milwra y brodorion o'r holl