wlad; ac vel milwr byddai ei gydymdeimlad gyda'r swyddwyr. Ond cymerid cysur o'r faith ei vod ev wedi cychwyn Lleodraeth yn ei raglawiaeth briodol ei hun, sev Viedma, o du deheuol yr avon Negro.
At Raglaw Tiriogaeth Patagones.— Dymuna y ddirprwyaeth sydd ger eich bron ddatgan wrthych eu gobaith y bydd i'ch ymweliad presenol â'r Wladva vod yn voddhaol i chwi, ac y bydd i'r croesaw gawsoch yn yr amrywiol ardaloedd eich darbwyllo mai pobl dawel, drevnus, a diwyd yw sevydlwyr Chubut, a'u bod yn caru eu gwlad newydd, vel y dengys eu cartrevi cysurus a'u boddlonrwydd. Disgwyliant hevyd y gwel eich llygaid craf chwi yr amrywiol angenion sydd arnom am welliantau tai, fyrdd, pontydd, fosydd, ysgolion, pentrevi, &c. ——poblogaeth egniol, yn awyddu am welliantau a threvn sevydlog o reolaeth. Gwyddoch vod y Wladva wedi arver gweinyddu achosion y lle, ac iddi yn ddiweddar ddanvon dirprwywr at y Llywodraeth i ovyn am Leodraeth furviol a threvnus, a chael cevnogaeth ac addewid y Gweinidog i hyny, ac i chwithau yn Rhagvyr dilynol erchi i'r prwyad yn Chubut wneud etholres y Wladva yn ol amlinelliad Cyvraith y Chaco, eithr i'r swyddog hwnw godi anhawsderau rhag gwneud nes cael gorchymyn oddiwrth Swyddva Gwladvaoedd. Yn Mehevin diweddav gwybu y Wladva eich bod chwi wedi erchi iddo yr ail waith dynu allan etholres: ac oddiwrth hyny cesglid vod y rhwystr cyntav wedi ei symud. Velly, pan wybuwyd yn Gorfenav eich bod chwi ar vedr ymweled a'r Wladva, gobeithir bellach, tra'r ydych chwi gyda ni, y gwelwch yn dda roi mewn grym y Leodraeth addawedig gan y Gweinidog, am yr hon y mae cymaint disgwyliad.—Y PWYLLGOR.
Ymarhoid heb wneud dim at gael etholres, ac aeth 1883 i ddivancoll heb i'r Wladva vod vymryn nes o ran cael Lleodraeth. Diddymasid y prwyadaethau drwy'r Weriniaeth oll, ond cedwid Finoquetto mewn awdurdodaeth agored megys cynt: elai a delai ev i Buenos Ayres, gan adael y Wladva i ymdaro drosti ei hun drwy'r misoedd. Aethai y rhaglaw Winter i'w Diriogaeth ei hun, heb wneud un osgo at roi uvudd—dod i orchymyn y Llywodraeth am etholres leodrol—gwesgid clust a goddevid yn daeog: neb ond Finoquetto yn arglwyddiaethu, a'i waseiddion yn casglu clecion at gynud ac ager. Barnwyd ei bod yn hen bryd dwyn yr hen gyvlegr Brydeinig eto i'r vrwydr, ac velly, ar ddechreu 1884, cavwyd gan Syr Love Jones—Parry ovyn yn Nhŷ y Cyfredin, ai ni allai llys—genad Prydain yn Buenos Ayres wneuthur rhywbeth gyda'r Llywodraeth Arianin i liniaru yr ormes a'r avreoleiddwch oedd ar y Wladva Gymreig yn Chubut. Y llys—genad ar y pryd oedd yr Anrhyd. E.