Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/153

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Monson. Am ddau vis gwasgai y llys-genad yn ddyval a bonheddig drwy y Swyddva Dramor Arianin, ac o'r diwedd cavodd yr atebiad canlynol:—

Buenos Ayres, Gorf. 18, 1884.

I'r Gweinidog Tramor.—Parthed eich nodyn o ymholiad am Wladva Chubut, oblegid cais Mr. Monson, llys—genad Prydian Vawr, mae'n hyvrydwch genyv ddweud wrthych yr edrychir ar ol y Wladva hono megis yr edrychir ar ol holl wladvaoedd eraill y Weriniaeth. Yn adroddiad Swyddva Gwladvaoedd am y vlwyddyn ddiweddav rhoddir adroddiad o lwyddiant y lle a'r gweithiau dyvrhaol llwyddianus wneir yno. Mae ganddynt brwyad yn ol y gyvraith sydd mewn grym, dysg a medr yr hwn sydd yn gwbl voddhaol i mi, a digon yw darllen ei adroddiadau i weled y dyddordeb a gymer a'r gwelliantau a gynygiai: cevnogir ev hevyd gan rai o'r sevydlwyr a gwyddonwyr vu yno yn ddiweddar. Yn aros am gymeradwyaeth y Congress y mae darpariaethau gweinyddol i'r Tiriogaethau sydd yn cyvarvod pob eisieu i hwylio rheolaeth leodrol, creu barnwyr cyvreithiol, ac hyd nod gynrychiolaeth yn y Congres drwy ddirprwyon, yn meddu llais yn y travodaethau. Disgwyliav y vlwyddyn hon weled y cynllun yn cael ei vabwysiadu, ac hevyd y bydd yn cyvarvod yr ymovynion gawsoch chwi oddiwrth lys—genad Prydain Vawr.

Digwyddodd vod L. J. yn Buenos Ayres ar vusnes ar y pryd, a phan wybu y llys—genad hyny, eve a ddanvonodd yr atebiad gawsai i L. J., vel y gwnelai yntau unrhyw nodiadau arno varnai yn addas. Wele y nodiadau wnaed:—

Buenos Ayres, Awst 25, 1884.

Wrth ddweud vod y Wladva yn cael yr un sylw a gwladvaoedd eraill, mae'n debyg mai cyveiriad ydyw hyny at adroddiadau y prwyad am y Wladva—nid at ddymuniadau a buddianau y sevydlwyr. Tra yr edrychir arnom vel haid o dramoriaid i'w bygylu, ac nid vel deiliaid cydradd, byddwn at drugaredd adroddiadau vel hyn—yn y rhai y mae cred y Gweinidog yn ddirvawr! Ceisiodd y Wladva ddweud ei chŵyn lawer gwaith a llawer modd, ond bu y canlyniad diweddar mor siomedig a chreulon, vel nad oes yn aros ond naill ai gwaseiddiwch ysgymun neu vudandod taeog. Llethir dadleuaeth bwyllus drwy ei alw yn vradwriaeth: deonglir cyd—ddwyn amyneddgar megis divrawder neu gydsyniad. Mae naw mlynedd er pan ymyrodd y prwyad cyntav â'r trevniadau lleol: bu dirprwyon dro ar ol tro yn ervyn cael travodaeth: ni wadwyd erioed yr hawl a'r doethineb: gwnaed addewidion lawer na oedid yn hwy, eithr hyd yn hyn y mae savle leodrol a chyvreithlon y Wladva yn cael ei gwbl anwybyddu. Gall vod adroddiadau