Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a llythyrau yn pasio rhwng yr awdurdodau, ond y mae'r 1,200 gwladvawyr mor anhysbys ohonynt a phe byddent alltudion. (2) Sonir am 'fyniant y Wladva, a'r gwelliantau vwriedir." Eglur yw vod y cynllun unbenogol o geisio rheoli yn dallu y Gweinidog i wir gyvlwr pethau. Ysywaeth, nid yw y Wladva yn llwyddo. Drwy ystod y 18 mis diweddav y mae dyvudiaeth o Gymru wedi llwyr beidio: ymadawodd dwsinau o wladvawyr da i vyned i vanau eraill yn wir bu y_cyvnod hwn y caletav gawsid er's blyneddau. Ac eto y mae Dr. Irigoyen yn "voddhaus iawn ar adroddiad ei is—swyddog am y llwyddiant ! Gobeithio y llwydda'r Wladva eto yn y man, ond bydd hyny drwy ymdrechion diwyd a chynildeb tawel y sevydlwyr, ac nid drwy adroddiadau," a'r dull presenol o weinyddu pethau yn y lle. (3) Am y "cynlluniau dyvrhaol," maent yn yr awyr er's 8 mlynedd, a'r Llywodraeth wedi gwario £2,500 i'w "hevrydu," ac yn govyn £4,000 at ddevnyddiau yn awr: tra mae'r gwladvawyr ohonynt eu hunain WEDI gweithio camlesi sydd yn eu gosod o leiav uwchlaw dybynu ar gynlluniau y Llywodraeth. Gwerir £3,000 y vlwyddyn ar swyddogion yn y Wladva, a chyda'r holl gynlluniau mawr yn yr awyr, diau y tybiai'r Gweinidog y dylent vod yn voddlawn iawn, neu eu bod yn aniolchgar iawn; (4) Mae Dr. Irigoyen yn berfaith voddlawn ar adroddion y prwyad. Nid yw wedi covio unwaith mai disgwyl mae y Wladva am weled gweithredu rhywbeth, ac nid adrodda, a threvn weinyddol wedi ei sevydlu yn ol cyvraith. (5) "Mae rhai o'r sevydlwyr yn voddlawn i'r prwyad!" a rhoes y gwyddonwyr Frengig air da iddo! tra yr anwybyddir gwaedd vawr y Wladva pan garcharwyd ei phobl, ac na chymerwyd sylw o'u disgwyl distaw am gyhyd o amser. (6) " Mae cynllun o vlaen y Congres i drevnu gweinyddiad y Tiriogaethau" meddir. Mwynheir Lleodraeth eisoes gan sevydlwyr Rio Negro, Chaco, a Misiones: gallesid er's talm estyn yr un breintiau i Chubut pe mynasid. Yr ydys wedi hir ddisgwyl a govyn am hyny, a chael addewid swyddol gyniver waith vel nad oes genym bellach ond gwenu'n anghrediniol, a dywedyd, "Ni a gredwn pan y'i gwelwn." Bryd bynag y daw hyny, bydd ar y Wladva rwymau i ddiolch i lys—genhadon ei Mawrhydi yn Buenos Ayres am y dyddordeb gymerant bob amser yn ein helyntion ni yn y Wladva, vel dyrnaid o Brydeinwyr yn ymladd am chwareu teg dan anhawsderau lawer. Yn bersonol a Gwladvaol bu dda i mi wrth y dylanwad mawrvrydig hwnw lawer gwaith, a diau vod yr ymdeimlad hwn o nodded i'r gorthrymedig wrth wraidd ein hedmygedd o'r vaner Brydeinig.— L. J.

O hyny allan bu Syr E. Monson yn dyval wasgu ar y Llywodraeth: cawsai gopi o'r ddeddvwriaeth oedd o vlaen y Congres, a danvonodd hi i L. J. i weled a vyddai voddhaol i'r Wladva pe