Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/155

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ceid hi. O'r diwedd, yn Hydrev 16, 1884, ymhen pedair blynedd wedi dechreuad y vrwydr, ac agos i 20 mlynedd wedi sylvaenu y Wladva, cavwyd Deddv y Tiriogaethau Cenedlaethol "magna charta" y Wladva.

Bwriadwyd unwaith roddi yma gyvieithiad llythyrenol o honi; ond gan vod eisoes amryw welliantau neu gyvnewidiadau wedi eu gwneud arni (vel y gwneir yn Mhrydain), ac vod llawer o'r trevniadau yn gyvreithiol, a'r cyvreithiau hyny yn ol y dull Hispaenig, ni roddir ond y crynodeb dealladwy canlynol ohoni:

Rhenir y Tiriogaethau—sev y rhandiroedd eang oedd y tu allan i'r 14 Talaeth gyvansoddent y Weriniaeth—i naw tiriogaeth: Pampa, Neuquen, Rio Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del fuego, Misiones, Formosa, Chaco. Nodir finiau pob un: finiau Chubut (y Wladva) oeddynt o lanau'r Werydd hyd bigyrnau uchav yr Andes, ac yna ledredau 42 i 46 De—pedair gradd lledred, a rhywbeth tebyg yn hydred—dyweder 240 milldir ddaearyddol bob fordd.

Pan ddelo poblogaeth unrhyw diriogaeth yn 30,000 bydd mewn sevyllva barotoawl i ovyn cael bod yn dalaeth, ac i gael deddvwrva iddi ei hun nes bod yn dalaeth. Mae y dirprwyon i'r ddeddvwrva i vod yn un ar gyver pob dwy vil o'r trigolion: wedi eu hethol gan y rhanbarthau lleodrol, ac i barhau mewn swydd dair blynedd: yn vreinwyr cyvlawn oed, ac heb vod yn dal unrhyw swydd dan gyvlog y Llywodraeth.

Rheolaeth y Diriogaeth vydd drwy i'r Llywodraeth benodi Rhaglaw, drwy gydsyniad y Senedd, am dair blynedd, ac ymddiried i hwnw "drevniadau diogelwch, gweinyddiad, a dadblygiad y diriogaeth." Ysgrivenydd y rhaglawiaeth a benodir ill dau hevyd gan y Llywodraeth ar gynygiad y rhaglaw: a hwynt—hwy sydd gyvrivol i'r Llywodraeth.

Y Llywodraeth sydd i benodi Barnwr Cyvraith (am ei oes. neu ymddiswyddiad) a chydag ev ysgrivenydd o dwrnai, a dadleuydd a'r gweinyddion llysol arverol.

Y TREVNIANT LLEODROL (municipal) sydd drwy Ynadon Heddwch (taledig) dros bob rhanbarth o wlad y bo mil o drigolion ac uchod ynddi: i'w hethol drwy dugel gan bob un mewn oed vo ar yr etholres, ac i barhau mewn swydd am ddwy vlynedd. Travodant bob achos o hawl ac iawn hyd i werth $200 (yna apel at y Barnwr): mewn achosion troseddol pan na vyddo y gosb yn vwy na 4 diwrnod o garchar, neu $20 o ddirwy:: travodaeth yr ynadon i vod ar lavar ac ar ysgriv, a'r dyvarniad i vod wrth wiredd a dilysedd credadwy, gan ovalu, modd bynag, am furviau prawv a difyn.

Y CYNGOR LLEODROL O bump i bob rhanbarth, a etholir drwy dugel pob etholwr ar yr etholres ar ddydd ac yn ol trevn osodedig,