Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/157

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXVI.

Y LLEODRAETH DAN BRAWVION.

Am bum' mlynedd wedi cychwyn y Lleodraeth elai pobpeth ymlaen yn llyvn a chyson. Ond yn Medi, 1888, ceisiwyd arver y castiau gweinyddol ac etholiadol sydd yn anurddo cymaint ar hanes y Weriniaeth, a rhoddir yr adroddiad yma o'r helynt vel engraift a rhybudd at y dyvodol.

Vel canolvan i'r holl Wladva cytunid ar Gaiman vel eisteddle y Cynghor Lleodrol. Trewrawson oedd eisteddle y Rhaglawiaeth—20 milidir is i lawr na Gaiman; ond y dyfryn uchav toreithiog 15 milldir uwch i vynu (gwel map t.d. 47). Ceisiasid govalu vod aelodau y Cyngor canol hwnw yn cynrychioli y gwahanol ardaloedd yn lled drwyadl. Trerawson oedd y priv le, gan mai yno yr oedd y Rhaglawdy a'r holl swyddwyr, a chyda hyny y lluaws Italiaid ymdyrent yno i vasnachu. Wrth gwrs, yr oedd rhiv yr etholwyr gyda'u gilydd (tua 400) yn peri nad oedd llais y swyddwyr a'u cysylltiadau ond bach o riv yn y cyvriv cyfredinol. Velly, yn Medi 17, 1888, rhoddes y rhaglawiaeth allan gyhoeddeb vel y canlyn: "Gan mai eglur yw vod meithder y sevydliad a'i gynydd yn peri nad ydys yn teimlo hyd yma ddylanwad y Lleodraeth ganolog vel y byddai ddymunol, ac vel y mae angenrheidiol i gyvarvod lluaws galwadau y lle, mae y Rhaglaw yn Erchi: Penoder pwyllgor lleodrol (commision municipal). cyvyngedig i Drerawson, priv ddinas y Diriogaeth. (2) Y pwyllgor hwnw i vod yn gynwysedig o bum' aelod o breswylwyr y drev, a'i awdurdodaeth yn gyvryw ag a roddir gan y gyvraith i gorforiaethau cyfelyb. (3) Penoder i furvio y pwyllgor hwnw y breinwyr canlynol:—G. Mayo, H. Musachio, A. Delaboro, V. Zonza, J. Bollo. (4) Cymhellir arnynt i roi sylw arbenig at iechyd a harddwch y drev.—L.. JORGE FONTANA, Rhaglaw.

Aethai y Rhaglaw ymaith i Buenos Ayres yn union ar ol rhoi allan y gyhoeddeb, gan gadael ysgrivenydd y rhaglawiaeth yn rhaglaw darbodol. Yr oedd cryn wahaniaethau barn parthed deongliad ac efaith y gyhoeddeb. Teimlid vod peth rheswm yn y gŵyn vod y gweinyddiad lleodrol yn arav ac avrosgo oblegid hyd y rhanbarth: ond gwyddid hevyd mai yr amcan oedd rhanu y grym etholiadol, a bachu yr awenau lleodrol gyda'r mwyavriv oedd yn swp gyda'u gilydd yn y pentrev, tra pobl y wlad yn wasgarog, ac heb vod bob amser yn unvryd—unvarn, vel ag i vod yn rymus. Ond colyn y cast oedd datroi etholiad uniongyrchol gan y bobl am benodi yn unbenogol aelodau y Cyngor lleodrol. Nid hir y buwyd cyn canvod mai yr hyn a ovnid a ddaeth