Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/158

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arnom. Drwy hollti y rhanbarth yn ddwy barnai y rhaglaw darbodol na vyddai vil o drigolion, vel y govynai'r gyvraith, yn y naill na'r llall, i vedru ethol drwy bleidlais, ac velly mai y rhaglaw oedd i benodi Cyngor am ranbarth islaw mil o bobl. I enhuddo mwy vyth ar y cast gelwid y corf newydd oeddid wedi benodi yn "Bwyllgor Trerawson" (commision de Rawson) ac nid Cyngor Lleodrol (consejo municipal). Yr oedd penodi pump o swyddwyr y Llywodraeth yn draha dybryd, tebyg i'r ormes y buasid dani o'r blaen; ac yr oedd hevyd anwybyddu y gwladvawyr yn newisiad Cyngor yn sarhad ar y Wladva oll—y bobl oedd wedi gwingo nes cael Lleodraeth dêg. Nid oedd bellach ddim i'w wneud ond ymladd gyda'u harvau hwy eu hunain — cyvrwysder a furviau. Nid oedd ond gwasgu clusthyd adeg etholiad. Ni newidiasai y gyhoeddeb ddim ar savle yr Ynadon, ac velly yr oedd hono wrth gevn. Cyn hir estynwyd y bawen i'r boced: archai y "pwyllgor ar i bawb dalu eu trwyddedau olwynion (vel y byddid arver) ar ddyddiad a roddid. Wrth gwrs, rhedodd llawer i dalu yn ebrwydd; ond gwelwyd hevyd vod y ddysgeidiaeth Wladvaol wedi magu asgwrn cevn yn y mwyavriv. Wedi cynull cyrddau cyhoeddus i dravod y mater mewn pwyll, cytunwyd i bawb dalu eu trwyddedau i'r Ÿnadva, o dan wrthdystiad. Dyrysodd hyny beth ar y glymblaid drahaus; a cheisiasant vygylu yr Ynad Lloyd Jones i gymeryd oddiarno swm y trwyddedau dalesid yno dan wrthdystiad. Pan welsant na wnai hyny y tro chwaith, ac vod Ꭹ Wladva yn dechreu gweled sut y byddai pethau heb etholiad lleodrol, galwasant am etholiad dau aelod ar ben y tymor y penodasid hwy. Ond gwnaed hyny mor gastiog ag oedd y cast cyntav: galwyd yr etholwyr i Rawson (rai 18 milldir a fordd) pan oedd pawb ymhen eu helynt gyda dyvrio y cnydau—Medi 26, 1889yr adeg brysurav o'r vlwyddyn—heb rybuddion amserol na chyfredinol, ac heb drevniadau etholiadol ar gyver y rhaniad wnaethid ar y rhanbarth. Cwbl over oedd govyn am ohirio vel ag i'r sevydliad oll gael ethol yn deg: mynwyd cynal etholiad, ac vel hyn y bu'r canlyniad :—Pleidleisiodd 43, tra yr oedd ar yr etholres 377; dewisodd y 43 hyny J. Bollo a V. Zonza: i'r rhai hyny pleidleisiodd 7 o Archentiaid, 25 o Italiaid, 8 tramoriaid, 3 Prydeinwr.

Ve welir oddiwrth y figyrau hyn mor llwyr yr erthylodd yr "etholiad" hono—ond yr oedd yn ol y FURV, a theimlai y glymblaid mor gadarn yn eu sedd bellach, vel yr aethant mor hyv a cheisio diswyddo yr Ynad, am iddo sevyll i beidio cydnabod y glymblaid, a gomedd rhoddi i vynu iddynt arian y trwyddedau roisid yn ei ymddiriedaeth. Tynodd hyny alan y "pendervyniad" swyddol a ganlyn:

Cyngor Lleodrol Rawson, Chwev. 4, 1890.—Yn gymaint ag vod y papurau sydd ymeddiant y Cyngor hwn yn dangos vod