Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/159

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Ynad D. Ll. Jones wedi troseddu yn ei swydd yn ddivrivol, drwy anwybyddu y Cyngor hwn yn llwyr, yn groes i'r llw gymerodd yr 2 o Vedi diweddav, mae y Cyygor hwn, yn ol y gallu roddir iddo gan penr. 10 o'r Gyvraith, yn Gorchymyn:Darvydded D. Ll Jones vel Ynad Rawson, a phenoder yn ei le Pio Agustin Perez. Pasier i'r Barnwr govnodion o'r hyn barodd y gorchymyn hwn, vel y cosper yn ol yr haeddiant.—G. MAYO, Cadeirydd.

Gosodasai yr Ynad hysbysiad ar bost y bont—y man cyhoeddusav — yn hysbysu y byddai ei swyddva ev yn agored vel arver. Mawrth 6, 1890, ysgrivenodd yr Ynad y nodyn canlynol at L. J. :—Yr wyv newydd gael gwys ymddangos oddiwrth Woodley (Priv Gwnstabl). Nis gwn yr amcan, oddigerth eu bod am vy nanvon ymaith, neu vy nghadw rhag myn'd i Buenos Ayres. Mae Woodley wedi govyn am gael tori i lawr y post ar ba un y mae vy hysbysiad, a'r lle hevyd y mae hysbysiad y "municipalidad." Gwrthododd Gutyn ac Humphreys (adeiladwyr y bont). Ar vy fordd yma cyvarvyddais Woodley a dau blismon yn myned at y bont. Yr wyv yn danvon hyn er mwyn cael trevnu yn ol yr hyn a ddigwydd.—DAVID LLOYD JONES.

Ond yr oedd Lleodraeth wedi costio'n rhy ddrud i'r Wladva i veddwl ei golli drwy gastiau cyvrwys a thraha vel hyn. Cyfrôdd y Wladva drwyddi, vel ag yn adeg carchariad L. J., a chynted y cavwyd egwyl o'r fwdan dyvrhau, cynhaliwyd cyrddau ymhob ardal, ac arwyddwyd gwrthdystiad cyvreithiol grymus yn erbyn y fug etholiad, a'r holl weithrediadau trahaus dilynol. Ymdavlodd L. J. a J. M. Thomas i'r vrwydr o ddivriv, i vod yn gevn i'r Ynad. Y cam cyntav oedd i'r Ynad roddi allan gyhoeddeb yn egluro i'r Llywodraeth ei saviad ev, vel hyn :

D. Ll. Jones, Ynad Gweinran Rawson, yn egluro:—Ddarvod cyhoeddi ysgriv dan y dyddiad Chwev. 4, wedi ei harwyddo G. Mayo ac A. Blancà, ac arni stamp y Cyngor, ac a gevais i y diwrnod hwnw. Hònav vod G. Mayo a dau eraill hònant eu bod yn aelodau o'r Cyngor, yn gwneud hyny'n groes i pen. 22 o Gyvraith rhiv 1532: vod y ddau eraill yn aelodau oblegid pendervyniad y lleill, yn groes i pen. 22, 24 o'r Gyvraith: vod 5 o bob 6 o'r etholwyr wedi gomedd myn'd i'r etholiad, ac wedi cyvlwyno gwrthdystiad rheolaidd yn erbyn, a mynegu eu gwrthdystiad i'r chwilwyr ar y pryd: ddarvod i'r pwyllgor o'r etholwyr aethant i'r Rhaglawdy, gael ar ddeall yno nad oedd y "Cyngor" honedig wedi cael ei gydnabod gan y Llywodraeth: vod y bobl hyn wedi trawsveddianu yr awdurdod lleodrol, i'r dyben o rwystro yr Ynad gyvlawni ei swydd yn briodol. Gan hyny, wrth ystyried mai yr Ynad yw yr unig awdurdod leodrol gyvreithlon sydd yn awr yn y rhanbarth, a'i vod drwy benodiad