Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/160

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arbenig yn geidwad y rhestru a phob ysgrivau; nis gall, ond i archeb y Llywodraeth yn unig, drosglwyddo y cyvryw i neb pwy bynag, heb archeb y Rhaglaw.—D. Ll. JONES.

Yn Mai dychwelodd y Rhaglaw Fontana o Buenos Ayres, a chavodd y Wladva yn verw bwygilydd oblegid y traha lleodrol. Yr oedd rhoi y Lleodraeth i veddiant penaeth y dollva, clerc y dollva, broker y dollva, meddyg y rhaglawiaeth, a'r athraw cenedlaethol, tra y mynegai'r gyvraith yn bendant nad oedd yr un swyddog taledig o'r Llywodraeth i vod ar y Cyngor, yn beth rhy warthus a beiddgar i'w oddev. Velly, Mai 17, 1890, danvonwyd y nodyn canlynol o'r Rhaglawdy i'r Ynad, G. Mayo, L. J., a J. M. Thomas:—" Yn gymaint ag vod yn well bob amser geisio heddychu drwy deg yn hytrach nag ar hawliau a llythyren, a chyn i'r Barnwr edrych i'r ysgrivau am yr anghydwelediad rhwng y Cyngor ac Ynadva Rawson, mae y Rhaglaw a'r Barnwr wedi penodi y dydd voru, am 2 o'r gloch, i dravod a heddychu y mater, a gobeithir y gellwch chwi, vel arwyddwyr y gwrthdystiad vod yn bresenol.—A. A. CONESA, dros y Rhaglaw.

Yn canlyn wele y covnodion gadwyd ar y pryd o'r ymgomva vu, a'r canlyniad:—"Gwyddvodol: Y Rhaglaw, y Barnwr, Conesa, Mayo, D. Lloyd Jones, J. M. Thomas, L. J.—Agorodd y Rhaglaw y sgwrs drwy roi ar ddeall ei vod wedi ymgynghori â'r Llywodraeth am y peth, ac wedi cael ei gymhell i gyd—ddeall evo'r Barnwr yn yr helynt. Wedi siarad maith a llac, govynwyd i Mayo ei syniad: yntau a gyvlwynai bapur o delerau ar ba rai yr ymddiswyddai eve: (a) Vod yr Ynad i dalu iddo ev arian y trwyddedau dderbyniaai dan y gwrthdystiad; (b) Yr Ynad i roi ei swydd i vynu, ac ymrwymo peidio sevyll ail etholiad pan ddelai yr amser. Gwrthodwyd y vath delerau ar unwaith. Yna gogwyddodd y siarad i ddangos vod y Barnwr yn tueddu i edrych ar ddiswyddiad yr Ynad gan Mayo vel peth byrbwyll ac avreolaidd. Wedi gweled hyny aeth Mayo allan i gydymgynghori â'i bobl, a phan ddaeth yn ol dywedodd eu bod hwy oll yn ymddiswyddo yn ddiamodol. Diolchodd y Rhaglaw yn furviol i Mayo am y gwasanaeth a wnaethai yn ystod y tymor. Dair gwaith yn ystod y sgwrs ceisiwyd dwyn i sylw bwyntiau y gwrthdystiad, yn enwedig am gael un Cyngor i'r weinran oll vel cynt; ond bu raid boddloni ar gadw urddas yr Ynadva, a gobaith cael ethol Cyngor rheolaidd.

Mai 14, 1890, galwodd y Rhaglaw am etholiad i ranbarth Rawson, vel y rhanesid hi, a chan y byddai tymor yr Ynad hevyd ar ben, gelwid am ethol Cyngor ac Ynad. Wrth gyhoeddi hono drachevn deuai yr ewin forchog i'r golwg yn y paragraf o'r gwysiad i ethol: "I vod yn aelod o'r Cyngor Lleodrol rheolaidd, rhaid bod yn drigianydd yn y rhanbarth,