Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/161

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyvlawn oed, yn meddu tir, a siarad yr iaith genedlaethol. I vod yn Ynad yr oedd ovynol bod yn vreiniwr (dinesydd). Dodir y bwrdd ethol ymhorth yr Eglwys Gatholig o 9 yn y bore i 4 brydnawn, neu yn neuadd y Barnwr." Yr oedd son am gymwysder tirioz a medru Hispaenaeg yn gwbl ddiwarant wrth gyvraith: ond bwriadwyd y crybwylliad yn ddiau vel math o vygylu a lleddvu tymherau ar ol y frwyno diweddar. Daeth yr un gwingo i'r golwg ymhen blyneddoedd wedyn i geisio cael yr etholiad leodrol ar y Sul, ymhorth yr Eglwys Babaidd, yn ol llythyren y gyvraith: a'r un anach barodd y drilio ar y Sul, nes y medrid newid hyny hevyd. Cynaliwyd yr etholiad hono yn vywiog a manwl yngwydd y Rhaglaw a'r Barnwr, y rhai a dystient na welsent hwy erioed etholiad gwerinol mor ddeallus ac mor anrhydeddus, heb dervysg a chastiau. Ysywaeth, y mae etholiadau y Weriniaeth Arianin ymhell o vod yn addurn i'r Genedl, ac yn aml iawn yn arwain i dervysgoedd a thywallt gwaed, oblegid tymerau nwydwyllt y bobl, a'u dibrisdod o vywydau eu gilydd. Canlyniad y cyfrawd lleodrol hwnw vu ethol pump o Wladvawyr blaenllaw i Gyngor Rawson, a D. Lloyd Jones yn ynad: ac i'r Gaiman gael Cyngor ac ynad iddi ei hun—J. C. Evans yn ynad cyntav, a Huw Griffith ar ei ol. Drwy Gymraeg y mae pob travodaeth yn y ddwy,—a rhoddi cyveithiad Hispaenig i'r Rhaglawiaeth o'r pendervyniadau.



Bu dau brawv arall ar y Lleudraeth—a'r ddau dro daliodd allan yn llwyddianus iawn, dan gryn wasgva ac anhawsderau: a chan eu bɔd yn engreiftiau o'r saviad Lleodrol rhag cael eu 'sigo gan y cawredd Llywodraethol, rhoddir yma adroddiad ohonynt er calondid a chyvnerthiad i'r bywyd lleol yn y Wladva.

Y cyntav oedd parthed y Dreth Dir. Tach. 2, 1893, ysgrivenai L. J. yr hanes i'r Dravod vel hyn :

"Bydd hwn yr 28ain tro i mi vyned at y Llywodraeth Arianin yn swyddol dros y Wladva, a'r 43ain mordaith yno—a gwaith divlas ovnadwy ydyw—croes i'm graen i erioed, ond vel y byddav yn teimlo rheidrwydd dyledswydd yn vy ngyru i geisio hyrwyddo tipyn ar y Wladva. Myvi vy hun, hwyrach, dynodd helvnt y Dreth Dir yn vy mhen y llynedd, drwy ymyryd i geisio cael sawd gweithio i'r Lleodraeth, heb neb yn vy nanvon na vy anos, ond vy neongliad i o'r gyvraith ag y barnwn oedd yn gyvle rhagorol i nerthu breichiau y Cyngor. Gyda'r mymryn cyllid lleodrol sydd genym o £250 y vlwyddyn — a £60 o'r rheiny yn myned am ysgrifenydda—nid oedd obaith gallu GWNEUD nemawr ddim. Mae y Llywodraeth Genedlaethol yn treulio £5000 mewn cyvlogau am ein swyddoga―tra ninau yn