Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/164

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gorf mawr y bobl: oddiar y syniad hwnw y trevna'r gyvraith vod yr holl etholiadau, o bob math, i vod ar y diwrnod hwnw. Gyda hyna o eglurhad gellir dilyn pwyntiau yr ysgriv ddilynol gyvlwynodd L. J. i'r Llywodraeth ar ran y Wladva yn Mehevin, 1897, yn nghylch yr ymarver vilwrol ar y Suliau, a'r hon vu lwyddianus i gael newid y diwrnod i hyny :

"L. J., sylvaenydd y Wladva, Chubut, dros y bechgyn rhestredig yn y cartrevlu tiriogaethol yn cyvlwyno eu dymuniadau aiddgar i'r Llywodraeth i gael newid diwrnod y dríl vilwrol o'r Sul i ryw ddiwrnod arall o'r wythnos. Wrth wneud hyny, hofai yntau gyvlwyno yr eglurhadau canlynol, yn y gobaith y byddant yn ddigonol i gael gan yr awdurdodau ganiatau yr hyn a ovynir mor daer gan y llangciau. 1. Nid yw niver y rhai rhestredig onid 70, ac o'r rheiny nid oes onid 10 neu 12 na waeth ganddynt pa ddiwrnod i ddrilio, tra y mae i'r 60 eraill yn groes iawn i'w syniadau a'u teimladau moesol. Ni ddymunai y bechgyn mewn un modd osgoi eu dyledswyddau gwladol, eithr ervyniant ar yr awdurdodau i drevnu rhyw ymwared iddynt na vo'n sathru eu moesau, na'r eiddo eu rhiaint 2. Mae ein Tiriogaeth mor anghysbell vel y mae unfurviaeth y dydd wedi bod yn anichon droion. Y llynedd aethai 30 neu 40 niwrnod o'r amser penodedig heibio heb i'r rhaglawiaeth wybod am yr alwad. 3. Dair neu bedair blynedd yn ol, archodd y Llywodraeth ar i'r rhaglawiaeth ganiatau i'r Lleodraeth newid dydd yr etholiad o'r Sul (vel y trevna'r gyvraith) i ryw ddiwrnod arall—a gwnaed velly. 4. Mae yr un anhawsder gyda'r etholiadau am Ynadon Dyvrio, yn ol Rural Code y Tiriogaethau. Am y rhai hyny dywedai y Rhaglaw yn ei adroddiad diweddar: 'Mae y gwladvawyr hyn yn gwrthod rhestru eu hunain ar gyver etholiad ynadon dwr. am vod hyny ar y Sul, ac nis gellir yn gyvreithlon eu gorvodi i hyny.' Gweithiasant y tair camlas vawr eu hunain, gwerth tair miliwn o ddoleri, ac arolygant hwy drwy gwmnïau; ond gwrthodant gymeryd arolygaeth y camlesi hyny, am vod 'arver y wlad' yn galw arnynt wneud hyny ar y Suliau. 5. Nid yw devion ac arverion y gwladvawyr mewn un dim yn groes i voes ac anrhydedd gwareiddiad yn hytrach arbenigant hyny, a haeddant velly bob parch a sylw: maent yn vreinwyr da, yn cydfurvio â phob ymarwedd a threvn dda,—nid ydynt yn arosod eu devion ar nebun, a govynant yn unig am oddeviant ar ran y Llywodraeth ynghylch parchu y Sabboth yn ol eu cred hwy. 6. Vel sylvaenydd Gwladva Chubut goddever i mi chwanegu ystyriaeth wladol bwysig, sev yw hyny, yr efaith anfavriol a bar yr anealltwriaeth hwn ar yr ymvudiaeth Gymreig tua'r Diriogaeth hono. Mae y Rhaglaw yn gwaeddi, a chyda rheswm, am sevydlwyr i'w diriogaeth eaug, ac os gall y Llywodraeth yn garedig ganiatau y cais hwn, nid oes ynwyv amheuaeth y byddai