Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/165

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn hwb adnewyddol i ymvudiaeth tua'r Diriogaeth eang a gwâg acw."

Yr oedd dríl y tymor hwnw wedi dechreu cyn i'r ysgriv vlaenorol vyn'd drwy y furviau govynol: eithr wedi y gorfenodd, rhoddodd y Llywodraeth gyhoeddeb (decree) allan yn caniatau i Raglaw y Diriogaeth newid diwrnod y dril o'r Sul i ryw ddiwrnod arall bob tymor.

XXVII.

YR ADVYWIAD.

Y rhaglaw cyntav dan yr oruchwyliaeth newydd oedd Luis Jorge Fontana, a bu'n dal y swydd dros ddau dymor (6 blynedd), Alejandro A. Conesa yn ysgrivenydd iddo yr hwn hevyd ddewiswyd yn ysgrivenydd gan y rhaglaw ddilynodd—sev Don Eugeni Tello. Yr oedd yn 1885 pan ddaeth y rhaglaw Fontana i gymeryd ei swydd, a dechreuodd ar unwaith roddi y gweinyddiad Lleodrol mewn grym. Penododd y Senedd Dr. Horacio Reale yn Varnwr Cyvraith. Aeth pob peth i'r rhigolau yn rhwydd ac ar unwaith, wrth vod yr holl dravodaethau blaenorol wedi parotoi y lle a'r bobl i weinyddu yn ddeallus; a'r rhaglaw o'i 'du yntau yn gynevin â sevydliadau gwledig, ac yn wr goleuedig, rhyddvrydig. Bellach gellid ysgrivenu, "A'r wlad a gavodd lonydd," o ran anesmwythder gwleidyddol-gweinyddol—ac a ddechreuodd lwyddo.

Drwy gydol yr helbulon gweinyddol yr oeddys wedi bod yn ymgodymu ac ymdrechu âg anhawsderau eraill lawer, oeddynt i'r lluaws, hwyrach, yn nes adrev a chyfredadwy—sev oedd hyny: y dyvrhau, y cynyrchu, y cludo, a'r masnachu. Wedi cael y weledigaeth o ddyvrio, a rhwbio llygaid beth amser i'w darllen yn iawn, dechreuwyd cyvundrevn o fosydd o'r avon i vanau cyraeddadwy ar y dyfryn: ond cavwyd gwersi o siomedigaeth a cholled gyda'r rheiny droion oblegid anwadalwch codiadau yr avon. Yna aethpwyd i veddwl yn sicr mai argaeo yr avon a'i chadw velly yn yr un uchder o lyval oedd y cynllun diogelwch. Gweithiwyd yn wydn, egniol, a dyval ar y syniad hwn, drwy anhawsderau a chyvyngderau lawer. Yr argae gyntav geisiwyd oedd un o bolion helyg, uwchlaw Gaiman. Wedi hyny cyvunodd fermwyr y Drova Dywod i wneud cynyg teg am argae goed gynllunedig: a gwariwyd cryn arian am y coed hyny, ac ymdrechion pybyr vwy na hyny, i ymladd â'r hen avon—ond yn over. Yna yr oedd ceryg a chreigiau Gaiman wedi llygad—dynu pobl Bryn-gwyn a'r Dyfryn Uchav i deimlo yn