Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/166

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyderus y trechent hwy ellyll y dwr drwy vwrw digon o'r ceryg hyny i'w grombil—a milain ovnadwy vu y codymu hwnw : cawsid pen ar y mwdwl unwaith, ond cnodd a thyllodd yr hen avon am y sodlau a'r ceseiliau nes ei gadael yn vurddyn mesopotamaidd o wydnwch y Gaimanwyr. Dro wedyn, pan ddaethai peirianwyr ac arianwyr trosolion mawr y byd diweddar—i 'maelyd codwm â'r ellyll, a nerthoedd o egni a dyvais tu ol, disgwylid yn ddiogel gael y llaw uchav arno—eithr ys truain o bethau yw penau a pocedau pan gyvyd Natur yn ei mawredd arddunol i'w teilchioni a phoeri arnynt—ysgubid pob peth devlid i'r anoddyvn—bwyteid y torlanau—furvid traethau —ac elai gobeithion y gwladvawyr hevyd gyda'r lliv. Ceisiwyd unwaith neu ddwy wedi hyny glytio y murddynau argaeon hyny—ond i nemawr ddim pwrpas.

Yna, ar ol yr holl drybaeddu a sigdod, sgrwtiodd y Wladva wrthi ei hun, vel pe'n dywedyd, "Os nad wyt gryv bydd gyvrwys:" ac aed ati ar unwaith i lyvelu ac anelu i hudo yr hen avon yn arav vach o’i manau uchav yn y Creigiau Cochion i redeg drwy GAMLESI graddol dros holl wyneb y dyfryn. Hwn bellach yw yr allwedd aur sydd i agor dorau pob anhawsder—ond vod gwaith gov arno yn aml i fitio—"dim digon o rediad," "newid gwely'r fos," "tori cangen newydd, neu unioni," cavnau, dorau, &c.

Tra yr oeddys eto wrthi yn ceisio dadrys y cylymau hyn, teimlid yr esgid yn gwasgu ar vawd masnach y lle, ac wedi cosi bodiau a fèrau eu gilydd clybiodd dyrnaid o'r gwladvawyr i wneud "Cwmni Masnachol y Camwy"—C.M.C.Chubut Mercantile Co.—Compania Mercantil del Chubut! danvon eu gwenith (taw dyna goin y wlad) yn gyvunol i varchnad Buenos Ayres, a chael nwyddau ac arian yn ol am dano. Yr oedd hyn yn 1885, a chraidd y clwb oeddynt T. T. Austin, W. W. Mostyn, J. C. Evans, D. D. Roberts, B. Brunt, &c.

Tua'r un adeg credasai T. Davies (Aberystwyth), wrth weled aber salw anghyvleus yr avon, mai hwylusdod mawr vyddai cael rheilfordd o vau ardderchog Borth Madryn dros y paith i'r dyfryn (vel yr awgrymasai Syr Love Jones—Parry yn ei adroddiad), a chavodd gan L. J. ac E. J. Williams lyngcu yr un syniad. Ond "hawdd dywedyd dacw'r Wyddva, nid eir drosti ond yn ara." Wedi cael gwared o hunlle y Lleodraeth, aeth L. J. i Buenos Ayres i geisio cael breinteb ganiataol gan y Llywodraeth i wneud rheilfordd velly, a chael lech o dir rhodd o bobtu'r linell. Llwyddodd yn hyny: ond peth arall oedd cael rhywun ag arian i wneyd y fordd haiarn. Wedi unwaith daro ar wr mor egniol ag A. P. Bell, aeth y peth rhagddo i dervyniad llwyddianus a buan. Yn 1887 agorwyd y fordd haiarn honoF.C.C.C.—o 70 kilom. (42 mill.) rhwng Borth Madryn a Threlew yn y dyfryn.