Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/167

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwelir wrth y vras olwg yna mai cyvnod mawr i'r Wladva oedd hwnw: (1) Cael Lleodraeth reolaidd. weithiadwy, dan arolygaeth rhaglaw deallus. rhyddvrydig. (2) Agor camlesi dyvrio, vel gwythi arian ar hyd y dyfryn. (3) Cychwyn masnach ar seiliau cydvael, i vod yn allu lleol ac elw. (4) Gosod y rheilfordd yn llinyn travnidiaeth o Borth Madryn gyda'r byd oll, a dwyn 300 o ddyvudwyr i vywyd tra newydd.

TREM DRACH Y CEVN.

Sypiwyd digwyddion y paragraf diwedddav vel crynodeb o helynt y Wladva dros amryw vlyneddoedd, vel y byddent velly yn vwy dealladwy a dyddorol: ond rhaid myned yn ol o ran amseriad i gael penau edavedd y bellen hono eto a'u cydio a'u nyddu i wê y stori.

Yn 1875—6 (10 mlynedd cyn cael o'r niwl) pan ddylivai y dyvudwyr o Gymru i vyn'd tua'r Wladva, a hono ar y pryd yn anaeddved iawn i'r vath ruthr, oblegid y traferthion a'r anhawsderau lawer a'i cylchynai (y cyveiriwyd at rai o honynt)— danvonodd Swyddva Dyvudiaeth un vintai ohonynt i Santa Fé (ardal Reconquista), lle y mae gweddill bychan ohonynt yn aros hyd heddyw. Eithr ymhen hir a hwyr medrodd dau neu dri theulu ohonynt eu fordd i'r Wladva (H. S. Pugh, Robt. M. Jones, J. Loyd, &c.) lle maent wedi cartrevu yn gysurus.

Wrth grybwyll am Sante Fé dylid cyveirio y darllenydd yn ol i t.d. 52, lle y crybwyllir am ran o'r ddirprwyaeth aethai i vynu yno yn 1867 (yr "ail ymblaid"). Talaeth vawr boblog yw Santa Fé yn awr, lle y codir llawer o wenith, a'r tiroedd wedi eu meddianu gan gym'dogaethau o Ellmyn, Helvetiaid, Italiaid, Prydeiniaid, &c. Mae yno un teulu o'r Cymry yn aros eto (John Morgan, Pwllglas, Penygarn, ger Aberystwyth), ac mewn sevyllva gysurus, gan gadw eu hiaith a'u devion Cymreig yn rhyvedd, eithr y gweddill wedi chwalu ac ymgolli yn y cylchynion.

Yn 1877 yr oedd y wasgva yn y Wladva yn ddwys iawn, am nad oedd weledigaeth eglur parthed argaeo yr avon, neu ynte gamlesu (gwel y cyveiriadau at y cyvnod hwnw). Llu o bobl ar draws eu gilydd yn eu chwithdod a'u hiraeth yn methu cael bywoliaeth, ac ynghanol helbulon pethau ar eu haner: a'r vrwydr am leodraeth yn poethi—cynhelid cyrddau, cynhenai pleidiau, ac ymadawai y rhai vedrent. Pan alwodd y rhyvellong Brydeinig "Volage" y vlwyddyn hono, cavodd y cabden y nodyn canlynol oddiwrth rai anvoddlawn i'r sevyllva :"Govyn yr wyv i chwi am gludiad oddiyma i rywle arall i chwilio am vywoliaeth. Yr wyv yn myned yn ddirprwy dros vwy na 150 o rai eraill ddymunent wella eu hunain, yn lle myned yn ol, vel y maent yma. Am vy nghymeriad cyveiriav chwi at A. Oneto, y prwyad cenedlaethol."