Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/168

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn 1884-5, pan ddaeth ysgegva yr argae a methiant cynhauav, daeth ton arall o anesmwythder, ac aeth amryw ymaith i van a elwid Curumalan (Sauce Corto) yn nhalaeth Buenos Ayres: a chawsant yno diroedd a chyvleusderau i wneud cynyg arall. Mae yno rai yn aros hyd eto, ambell un yn fynianus, llawer wedi chwalu, ond llawer hevyd wedi dychwelyd i'r Wladva o dro i dro, a chartrevu yno yn voddlonach ymhlith eu pobl eu hunain nag yn y gymysgva a'u cylchynai: a phethau yn y Wladva erbyn hyny wedi ymunioni a gwella.



"CWMNI MASNACHOL Y CAMWY"—C. M. C.

Cyveiriwyd at y Cwmni hwn—"Y Co—operative," vel y gelwir Mae hwn yn sevydliad pwysig bellach: yn meddu tair neu bedair maelva, ac yn ddiweddar wedi prynu llong 300 tunell i'w helw ei hun: cyvala o ryw £10,000, yn rhaneion £1 yr un: rheolir y vasnach gan vwrdd o 12 aelod (elwir hyrwyddai) ac arolygydd (manager). Derbynir y gwenith (a phob cynyrch masnachol arall) oddiwrth y fermwyr, a rhoddir papur am y pwysau a'r gwerth yn gredyd i gyvriv y gwerthwr, a chaif yntau nwyddau neu arian vel y bo eisieu (i hyd ei gredyd): rhenir y vlwyddyn i dau neu dri thymor, a'r pris gwerthu ymhob tymor vydd rheol y credyd: yn Buenos Ayres gwertha y rhyngwr (broker) bob llongaid i gyvriv y Cwmni, a denvyn yn ol y nwyddau neu arian archasid gan yr arolygydd: ar ddiwedd y vlwyddyn gyllidol (Mai), yn y cwrdd blyneddol travodir y vantolen, ac yn y man telir y llôg ar y cyvala a'r elw ar y pryniadau. Mae masnach vlyneddol y C. M. Č. tua $390,000, a'i log cyfredin tua 12 y cant: mae yn delio ymhob peth, vel siopwyr mawr gwlad hen fasiwn : ond un nodwedd arbenig ynddo yw peidio masnachu dim yn y diodydd meddwol: o'i ddeutu y mae lluaws o stordai eraill, yn dybynu am eu helw agos yn gyvan ar ddiodydd (oddigerth dau neu dri eraill Cymreig): mae yn cael ei nwyddau weithiau yn syth o Brydain, er yn gorvod talu cryn 40 y cant o doll arnynt: mae y llong wedi costio £2,000, a rhedir hi i Buenos Ayres o Borth Madryn, oddieithr pan ddanvonir hi i gyrchu llwyth o nwyddau i Brydain.