Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/169

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHEILFORDD BORTH MADRYN.

Ar Wyl y Glaniad, 1886, y cyraeddodd y "Vesta," gyda 300 o ddyvudwyr i weithio y rheilfordd uchod. Daethent allan dan gyvlog a chytundeb wnaethent gyda'r Cwmni yn Lerpwl, ond nad oedd gan y naill blaid na'r llall nemawr amgyfrediad o amgylchiadau yr anturiaeth. Oblegid difyg cymundeb rheolaidd i le mor anghysbell ar y pryd, ni wnaethid trevniadau digonol a phrydlon i gyvarvod y vath ruthr o bobl, a devnyddiau at waith. Yr oedd yn amser trin tir yn y Wladva, a nemawr neb yn dra hyderus y cychwynid y vath anturiaeth a fordd haiarn; vel yr oedd dyvodiad mintai y "Vesta" ar Wyl y Glaniad agos mor anisgwyliadwy a dyvodiad mintai y Mimosa 20 mlynedd cyn hyny. Eithr drwy i'r Wladva yn gyfredinol iawn vod yn groesawgar a chymwynasgar wrth y newydd-ddyvodiaid, medrwyd eu lleoli a'u hyrwyddo heb nemawr anghafael, yn arav vach. Cludid y teuluoedd dros y paith i'r dyfryn trigianol gan vèni y sevydlwyr: a threvnid pebyll ac amryvath ddarpariadau ar gyver y dynion sengl a chreftwyr oreu medrid. Wrth gwrs, yr oedd ymhlith cyniver o bobl gasglesid ar vrys gwyllt rai adar lled vrithion: ond yr oedd y mwyavriv (o'u cydmaru â gweithwyr eraill) yn burion pobl, a throdd llawer ohonynt allan yn wladvawyr llwyddianus a hapus. Mae'r paith maith o 40 milldir sydd rhwng Borth Madryn a'r avon Chubut yn ddi-ddwr, oddigerth wedi gwlaw anghyson y tymor gauav. Dechreuwyd gweithio o'r ddau ben—o Borth Madryn dan y peirianydd W. A. Brown, a chydag ev 150 o'r dynion dibriod: ac o'r pen arall (Trelew) dan y peirianydd Edward J. Williams, a chanddo y gwyr priod dan ei arolygaeth. Yr oedd cyvlenwi dwr i gyniver o bobl dan amgylchiadau y vath gylchynion yn orchwyl divrivol o anhawdd, ac nid rhyvedd i'r dynion achwyn a gomedd gweithio unwaith neu ddwy: ond ar y cyvan gweithiwyd yn İled gytun a didramgwydd, ac vel yr oedd y ddau ben yn dynesu, a'r dynion yn cynevino peth â nodwedd y wlad, delai pethau yn llyvnach ac esmwythach, vel y medrwyd cwblhau y gwaith yn 1887. Yn haner-cylch am Borth Madryn cyvyd gris o uchbaith i ryw 300 troedvedd o uchder, a dringa y rheilfordd igamogam i ben hwnw dros ryw 6 milldir, ac yna i lawr goriwaered graddol at van a elwir Twr Iosef: oddiyno rhedir dros baith graianog gwastad, gyda'r borva deneu a drain yn ei orchuddio hyd o vewn rhyw 4 milldir i Drelew, a disgyn oddiyno i lawr drwy bantle naturiol i'r dyfryn. Gwelir velly nad oedd nemawr anhawsderau naturiol neu wyddonol ar y llinell—dim pontydd na thwnel, na nemawr gòbiau na thoriadau o waith mawr. Erbyn hyn y mae glanva o 400 llath i lwytho a dadlwytho yn Mhorth Madryn. Lled y llinell yw 1 mydr (metre), y mesur savonol Frengig. Dipyn gyda haner y fordd y mae cloddva o