Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/173

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXVIII.

Y CAMLESI A DYVRHAU.

Mae y Camlesi erbyn hyn yn rhwydwaith lled dda dros y dyfryn, ond cryn waith perfeithio arnynt eto. Digwyddodd yn fodus iawn erbyn cyvnod y camlesi hyn vod gwr ieuanc o Vostyn (E. J. Williams—evrydydd i Dr. Pan Jones yr un pryd a'r A.S. dros Flint) newydd gyraedd y Wladva, wedi ei gwrs gwyddonol vel mesurydd a pheirianydd, ond nid yw y Weriniaeth yn trwyddedu neb heb arholiad yn Hisp. Vel y dywed y Trioedd

E. J. Williams


Llwyd ap Iwan

am Hywel Dda, mai eve ddechreuodd wneuthur trevn a dosbarth ar ddeddvau Cymru, velly E. J. W. lyvelodd ac a ddynododd le y camlesi sydd erbyn hyn yn llinynau arian ar hyd y dyfryn. Yn y man (1886) cavwyd hevyd wasanaeth Llwyd ap Iwan yn yr un gelvyddyd yn gystal a chyda'r rheilfordd a'r chwiliadau i'r Andes). Buasai Rossi a Stant dros y Llywodraeth rai blyn-