Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/175

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae cyvundrevn lled gyvlawn o gamlesi vel hyn yn golygu agos sicrwydd am gnydau, gan nad beth vo y tymhorau : a'r rheidrwydd am danynt yn golygu hevyd na raid fwdanu i gywain a chynhauavu rhag ovn drycin. O'r tu arall, mae'r camlesi a'r cangenau, mewn hinsawdd dwym, yn golygu tyviant rhonge o vrwyn a hesg a thavol a chwyn o bob math, a hadau y rhai drachevn änt gyda'r dwri bob man. Velly, ar adegau rhaid sychu'r camlesi er mwyn carthu y tyviant, gwella'r ymylon, newid neu unioni. Ve ddeallir hevyd vod pawb yn galw am y dwr agos yr un pryd ac vod y cyvlenwad ambell vlwyddyn yn brin, pan ddigwyddo yr avon vod yn isel, ac na vo bwysau dwr ar y cavnau ond gwanwyn a chanol hav, vel rheol, y mae'r avon yn ei hanterth vel na vydd brinder. Pan eangir y camlesi yn y dyvodol, vel ag i gynwys y dyfryndir dyvradwy oll—a mwy vyth pan vydd galw am ddyvrio dyfryn Kel-kein, a hwnt i hyny hyd i ddyfryn yr Alloran, rhaid i gynlluniad a rheoleiddiad y camlesi vod yn vater o evrydiaeth wyddonol, megis y mae yn Arisona, Colorado, &c. Prinder y dŵr yn y cyrion isav, pellav o enau y gamlas, yw yr anhawsder, tra y mae'r trevniant yn anghyvlawn vel yn awr: pellder i gario y cynyrch i varchnad yw yr anhawsder i'r rhai sydd yn byw uchav, ond ynghyraedd dwr ddigonedd.

Mae amaethu yn Mhrydain yn gelvyddyd lled wahanol mewn amryw weddau i'r hyn yw yn y Wladva—nid o ran hau, a medi, a thrin y tir, ond o ran y DYVRHAU, a'r gwaith, a'r proviad cysylltiedig â hyny. Yn hinsawdd sych y Wladva, sychu a chrasu y mae pob peth ond a vwydir drwy ddyvrio—teisenu i vod yn danwydd y mae tom y gwartheg; a chan nad oes ond ychydig iawn o bresebau yno, na dim porthiant cefylau namyn gwellt, a gwair, a grawn, ve ddeallir nad oes nemawr wrtaith achlesol i'w gael. Amrywia ansawdd y tir hevyd, wrth gwrs, mewn gwahauol barthau; a golyga hyny wahaniaeth yn y dyvrhau, heblaw y gwahaniaeth yn y tymorau a'r adegau dyvrio. Wedi aredig ferm, rhenir y tir yn gaeau bychain a elwir sgwariau, drwy godi cloddiau pridd o ryw droedvedd neu haner llath ar draws ac ar hyd, yn ol vel y bo gogwydd y tir, ac y bo cyswllt y fos, ac ystyriaethau eraill o broviad dyvrhaol. År ol hau a llyvnu gollyngir y dwr i'r sgwariau parotoedig nes bod at uchder y cloddiau, ac ymddengys megys llyn cronedig: yna agorir adwy yn y clawdd i ollwng y dŵr i sgwar arall nes yw hono wedi ei mwydo, ac velly ymlaen nes vod yr oll wedi eu dyvrio. Eir drwy yr oruchwyliaeth hon ddwywaith neu dair yn y tymor, ac ar ryw vathau o diroedd haner dwsin o weithiau: ond os deil y cloddiau y tro cyntav, hwnw ystyrir bwysicav. Mae gwylio y cloddiau hyny a'r dwr—yn enwedig yn y nos, neu pan vo gwynt cryv—yn orchwyl dyval a deallus ac os tyr y clawdd, golyga hyny drybaeddu yn y llaca at y tòr ar ddiwrnod