Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/177

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chobiau a llivddorau: a phan elwir i gov hevyd vod fyrdd i redeg gyda phob dwy ferm, a'r rheiny gan vwyav erbyn hyn wedi eu cau gyda physt a gwivrau,—ve ddeallir vod y dyfryn yn rhwydwe anhawdd i ddyeithr ei ddeall.

Plenir peth tatws a llysiau gerddi (anrhaethol ry vach i iechyd y lle): mewn manau addas codir tatws da; ond hyd yn hyn ansicr yw garddu drwy ddyvrhau yr arwyneb, oblegid y duedd i gramenu sydd yn y tir yngwres yr haul. Coed cynhenid y wlad ydynt yr helyg gyda min yr avon, ond erbyn hyn y mae miloedd lawer o fynidwydd (poplars) wedi eu planu, unwaith y cavwyd dyvrio cyson, ac y medrwyd gwivrio i'w cadw rhag yr aniveiliaid. Mewn manau y cymerir peth traferth a goval, tyv coed frwythau o bob math yn gnydvawr, os nad yn breifion, er llwydrew a gwynt gwanwyn yn mènu ar y blodeu. Pompiwn, letys, tomatod, &c., hevyd a dyvant yn rhwydd ac yn aruthr.

Ond gwenith a haidd yw cnydau mawr y Wladva hyd yn hyn, ac alfalfa.


XXIX