Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/178

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR ARCHWILIADAU I'R ANDES.—CWMNI TIR Y DE.

Yn tudal. 90 et seq, ceir bras—adroddiad o'r chwiliadau vuasai ar y wlad o dro i dro, tra yr oedd y Llywodraeth yn ymlid y brodorion o van i van, nes cael y diriogaeth yn lled wâg ohonynt. Nid ydynt hwy eto wedi llwyr golli: canys ceir ambell vagad ohonynt mewn pebyll yma ac acw ar y cyrion anghysbell, yn byw ar yr helwriaeth sydd beunydd yn cilio o vlaen poblogiad, ond yn suddo i arverion isel o ddiota a hapchwareu nes bod yn dlawd angenus weithiau.

Pan ddaeth A. P. Bell (1884) i wneud y rheilfordd, awyddai am weled yr holl wlad: a chyn hir trevnodd i ddanvon teithwyr a chwilwyr dros y diriogaeth, ac ymhen yspaid aeth ei hunan ar eu holau, a danvonodd E. J. Williams drachevn, wedi gorfen y rheilfordd, i weled a dethol y manau goreu welai. Y rhai blaenav ddanvonwyd ar y chwil hono oedd Llwyd ap Iwan, Carlos Burmeister, a Leonard Lewis. Dygent gwch plygedig gyda hwy, ac yn hwnw ceisiodd un neu ddau ohonynt ddisgyn lawr i'r Tawelvor ar yr avon Caran-lewfw, sydd yn cychwyn o Vro Hydrev, nes eu hatal gan raiadr vawr. Gwnaed sawl cynyg wedi hyny, yn gystal a chyda'r glanau a thrwy'r coedwigoedd, ond hyd yn hyn heb gael mynediad drwodd. Daeth Burmeister a Lewis yn ol mewn bad (arall) ar hyd yr avon Camwy, a chavwyd drwy hyny amgyfred o nodwedd hono. Wedi dychwel o'i daith gyntav hono, trevnodd A. P. Bell i gychwyn sevydlu yn y lle elwid gan y brodorion Fo-fo-cawel, yngolwg yr Andes ei hunan, bron ar gwr gogleddol tiriogaeth Chubut: a danvonwyd yno vintai o ryw ddau ddwsin o Gymry, ar vulod llwythog, i barotoi lle am y sevydliad. Mae yno erbyn hyn estancia, neu raunch eang o ddaoedd.

Ar un o'r gwibiadau hyny trevnasid i ddanvon tri o Brydeiniaid drwy Patagones, ac ar draws paith sych y Valcheta, tua'r Wladva. Nid oeddynt hwy na'r trevnwyr yn deall nemawr am nodweddion ac anhawsderau y vath ymdaith, a'r canlyniad vu iddynt grwydro a cholli'r fordd. Ymhen blyneddoedd rai daethpwyd ar draws rhai o'u harvau, a gweddillion eraill ohonynt, ar vin y môr ger y Valdez. Bu cyfelyb grwydr i hyny ddwywaith yn vlaenorol yn hanes y Wladva—sev pan gollwyd D. William, Aberystwyth, yn union wedi iddo lanio o'r " Mimosa" (1865), ac y cavwyd ei weddillion, ymhen pedair blynedd, ryw 10 milldir o'r avon. Y llall ydoedd Iago Davydd, o Bryn Mawr, grwydr-