Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/179

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

asai pan yn dychwelyd o Borth Madryn i geisio anelu at yr avon (1866); ond daeth yr Indiaid ar draws spectol a gweddillion eraill ohono, druan, pan yn hela tuag Arwats ymhen rhyw bum mlynedd y dwyrain o Borth Madryn, yn lle y de. Nid yw y crwydriadau a'r colliadau hyn ond pethau hawdd i ddigwydd ar y vath beithiau eang a thebyg i'w gilydd, heb nemawr vanau uwch na'u gilydd a dynodol o ran furv—o leiav yn y cyfiniau tua glan y môr, lle y bu'r dich weiniau hyn.

Yna danvonwyd E. J. Williams i weled yr holl wlad Andesaidd —o Neuquen a'r Rio Negro, gyda llyn Nahuel-huapi, heibio Eskel a Walcheina hyd at Jenua, ac yna at Makidsiaw, Kytsácl, a Valcheta, ac yn ol gyda'r avon Chubut. Yr oedd gan A. P. Bell gynllun mawr o vlaen y Senedd Arianin i redeg rheilfordd o'r Werydd i'r Tawelvor, a chyda hyny drevnu gyda'r Llywodraeth i gael meddiant o 300 lech o'r tir goreu y fordd hono. Medrwyd manteisio ar gyvraith lled amwys, y bernid oedd yn llythyren varw, i vesur a mapio y manau dewisol, a thrwy dalu yn lled ddrud i dwrneiod a swyddwyr cavwyd gavael ar y 300 lech. a furvio velly gwmni Tir y De (Southern Land Co.). Yr oedd hyny ar vlaen y dòn noviodd hevyd gwmni y rheilfordd : ond cyn hir daeth y disdyll dòrodd i vynu yr "English Bank of River Plate," a phallodd y cyvala. Gwnaethai y cwmni hwnw balasdy o sevydliad yn Makidsiaw; adeilad vawr arall yn Nhrelew i gartrevu ymvudwyr (taw yr oedd dyvudwyr lawer yn y cynllun). Gosodasid 20,000 o dda corniog a chesyg yn Fo—fo—cawel, 50,000 o ddevaid mewn manau eraill. Pan oedd y cwmni yn ei vlodeu gwerthid llawer o'r daoedd i vyned i Chili, lle yr oedd amledd y boblogaeth vwnol yno yn galw am vwy cyvlenwad o gigvwyd nag a gynyrchai y wlad hono ei hun. Yn y man, dilynodd sevydlwyr Cymreig Bro Hydrev yr un cynllun, a danvonasant i Chili ganoedd o eidionau i'w gwerthu. Disdyll ydyw ar y cwmni hwnw hyd yn hyn: ond y mae rheilfordd vawr y de (Great Southern Railway) yn parotoi i wthio cangen o'u rheilfordd Neuquen hwy i lawr tua Nahuel-huapi a Fo-fo-cawel, ac evallai Vro Hydrev neu Teca. Oddiwrth y map bychan o'r cyfiniau hyny sydd ar y tu dalen gysylltiol, a'r map mawr, ceir dirnadaeth o bwysigrwydd a dichonolion yr ardaloedd hyn.