Tudalen:Hanes y Wladva Gymreig.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tuag adeg Chwildroad Frainc a Datganiad Anibyniaeth yr U. Daleithau, gwyntylliwyd llawer ar y syniad o Wladva Gymreig yn yr Unol Dale:thau gan ddau Gymro nid anenwog yn eu dydd, sev William Jones, Llangadvan, Maldwyn, a Morgan Ioan Rhys, golygydd y " Cylchgrawn Cymraeg," 1793—y greal Cymraeg cyntav y mae hanes am dano.

Ymddengys vod y cyntav hwnw yn engraift drwyadl o'r cyvnod chwildroad Frengig yr oedd yn byw ynddi, ac o'r Gymreigiaeth ronge oedd yn nodweddu amser L. Morus a Dr. W. O. Pughe. Ond chwilen benav ei vywyd oedd cael sevydliad Cymreig yn Kentucky, am yr hyn y buʼn gohebu gyda Pinkney, cynrychiolydd Unol Daleithau yn Llundain: ond bu varw yn 60 oed, cyn gallu gwneud dim rhagor. Rhyvedd yw darllen am ddyhead y gwr hwn ac ereill. Yr un adeg ag y ceisid cychwyn gwladva yn Pennsylvania, y cyveirir ati isod, a Morgan Ioan Rhys yn golygu" cael un arall yn Ohio: ac yna ddarllen yn yr un Cambrian Register vod 2000 o Gymry wedi myn'd o Liverpool rhwng 1790 a 1794 ar y neges hono, ond i 1500 ohonynt ddychwelyd yn siomedig! Yr HANES syml yn fyddlon govnodir yn y van hon—gwneir sylwadau ymhellach ymlaen.

Yn 1793, darvu i niver o voneddwyr Cymreig oedd yn preswylio yn Philadelphia a'r cyfiniau ymfurvio yn gymdeithas i geisio sicrhau llain o dir gan y Llywodraeth i'r Cymry wladychu arno. J. Morgan Rees oedd llywydd y gymdeithas hono, a John Jones yn ysgrivenydd—Mewn cyvarvod lluosog a gynhaliwyd y pryd hwnw, penodwyd yr ysgrivenydd i dynu allan gais at Lywodraeth yr Unol Daleithau, yr hyn a wnaeth vel y canlyn:—"Yr ydym ni, deiliaid fyddlon i'r Llywodraeth, cenedl y Cymry sydd yn preswylio yn y drev hon a'r amgylchoedd, yn ervyn arnoch werthu i ni am bris teg ddarn o'ch tiroedd darn digon mawr i wneud talaeth ohono i'n cenedl, ar y telerau a ganlyn—(1) Vod y tir i vod yn eiddo y Cymry, a neb arall; yn dir da, a thuallan i unrhyw sevydliadau eraill. (2) Vod y cyvreithiau i vod yn yr iaith yr ydym yn ei deall, sev y Gymraeg. (3) Ein bod vel talaeth i vod dan yr un cyvreithiau a'r taleithau eraill." Ymhen yr wyth mis cavwyd yr atebiad canlynol:"Nid yw cyvansoddiad yr Unol Daleithau yn caniatau i'r Congres wneud cytundeb neillduol âg unrhyw genedl pwy bynag. Wele y tir, ac wele y cyvreithiau.'

Ni lwyddodd greal M. Rhys, mwy na llawer ar ei ol, ac aeth ei gyhoeddwr ymaith at ei gyd—wladwyr i Amerig er mwyn y rhyddid o vyw yn ddilyfethair rhag gormes arlwyddol a threthol Cymru. Mae'n debyg iddo gael "yr hen wladvawyr" tua Meirion a Bryn mawr, &c., ar ben eu digon, a'u cylchynion wedi d'od yn voethus a chymysgryw. Velly, yn 1795 mae yn myned ar holy grail y Wladva Gymreig i Ohio, ac yn ysgrivenu, "Os bydd y Cymry yn chwenych